Cartref digidol diwylliant Cymru.

TAFWYL 2021

Cerddoriaeth

CERDDORIAETH BYW ▪︎ SGYRSIAU ▪︎ GWEITHGAREDDAU PLANT ▪︎ BWYD A DIOD ▪︎ MARCHNAD ▪︎ PERFFORMIADAU YSGOLION

15.05.21

Datganiad Line up Tafwyl 2021

*** English below ***


Mae’r artistiaid fydd yn perfformio yng ngŵyl Tafwyl ym mis Mai wedi cael eu cyhoeddi.

Ymhlith yr artistiaid cerddorol fydd yn ymddangos yn yr ŵyl mae Geraint Jarman, Mared,
Cowbois Rhos Botwnnog, Ani Glass, Gwilym,
a Breichiau Hir. Bydd 15 band yn perfformio
ar draws 2 lwyfan, wedi eu curadu gan Clwb Ifor Bach. Bydd perfformiad hefyd gan fand o
Lydaw, EMEZI, trwy bartneriaeth rhwng Tafwyl ȃ’r ŵyl Lydaweg
Gouel Broadel ar Brezhoneg
(GBB).

“Ar ôl blwyddyn dawel, dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddychwelyd i’r castell i
chwarae yng Ngŵyl Tafwyl eleni. Mi fydd yn gyfle arbennig i ffarwelio â chyfnod caled ac
i ddathlu dechrau newydd i ni gyd.”
– Ani Glass

Bydd y digwyddiad yn ffrydio’n fyw ar AM o gartref yr ŵyl, Castell Caerdydd, dan ofal y
cyflwynwyr
Huw Stephens, Seren Jones a Tara Bethan.

“Dwi wrth fy modd i gyflwyno Tafwyl am y tro cyntaf gyda Huw a Tara eleni. Mae hi’n
fraint i fod yn rhan o’r tîm, i ddarlledu o fy nghartref, Caerdydd, ac i fwynhau ein
diwylliant. Ar ôl blwyddyn galed i bawb, dwi’n credu mai Tafwyl yw’r ffordd gorau o
ddathlu bywyd yn ail-ddechrau!”
– Seren Jones

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw bydd cyfuniad cyffrous o drafodaethau, sgyrsiau a
gweithgareddau i blant mewn rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau amrywiol.

Ymysg y sgyrsiau mae sgwrs gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru wrth baratoi at fwynhau’r
‘Euros o adref’; recordiad arbennig o
‘Beti a’i Phobol gyda Sara Yassine’ (BBC Radio Cymru);
a
lansiad y podlediad LHDT+ cyntaf yn y Gymraeg, ‘Esgusodwch fi?‘.

Bydd llwyfan newydd llawn sesiynau a thrafodaethau am iechyd a lles, gyda sesiynau i gynnwys
podlediad
meddwl.org gyda Tara Bethan ac Alun Saunders; gweithdai ioga a
meddylgarwch; a sgwrs banel am hyder corff wedi’i drefnu gan
Mari Gwenllïan HIWTI.

I’r gynulleidfa iau bydd gweithdai TikTok, colur, coginio, a dawnsio i enwi dim ond rhai, a chyfle i
gymryd rhan mewn gweithdy
rygbi gyda Gleision Caerdydd. Bydd perfformiad arbennig gan
ddisgyblion Ysgolion Cymraeg Caerdydd wedi ei drefnu gan
The Welsh of the West End.

Wrth fwynhau arlwy’r ŵyl o adref, bydd modd archebu bwyd a diod yn syth i’ch gardd gan un o’r
12 o gwmnïau arlwyo sy’n cynnwys
Ansh, West Pizza a St Cannas. Gallwch archebu Cwrw
Tafwyl gan fragdy Tomos & Lilford; mwynhau sesiwn blasu gwin rhithiol gyda Vin Van Caerdydd;
a bydd cyfle hefyd i ddathlu diwylliant, bwyd a threftadaeth Bae Teigr trwy gymryd rhan yng
Nghlwb Swper yr elusen
Oasis Cardiff.

Wrth i Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, y bwriad yw adeiladu ar y profiadau
newydd a ddaeth yn sgìl yr ŵyl rithiol llynedd, parhau i gynnal ei hysbryd croesawgar a
chynhwysol, a throi’r her yn gyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant
Cymreig.

Ar ddydd Sadwrn 15 Mai bydd holl ddigwyddiadau’r ŵyl yn cael eu ffrydio’n fyw rhwng 10yb a
9yh trwy gyfrwng platfform digidol
AM, yna bydd cyfle i fwynhau’r uchafbwyntiau ar S4C am 8yh,
nos Sul 13 Mehefin.

I weld rhaglen lawn yr ŵyl ac am fwy o wybodaeth ewch i www.tafwyl.cymru a chyfryngau
cymdeithasol Tafwyl @Tafwyl / #tafwyl21

RHANNWCH