Cyfarfod Rhwydwaith Chwefror | February Network Meeting

No Categories Found

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gyfarfod Rhwydwaith mis Chwefror, fydd yn canolbwyntio ar offerynnau gwerthuso i fesur deilliannau iechyd a llesiant mewn prosiectau celf a natur.

Dydd Iau 13 Mis Chwefror
10am-11.30am

Archebwch eich lle

 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gyfarfod Rhwydwaith mis Chwefror, fydd yn canolbwyntio ar offerynnau gwerthuso i fesur deilliannau iechyd a llesiant mewn prosiectau celf a natur.

Yn ymuno â ni fydd Joseph Conran, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, fydd yn ein tywys drwy rai o’r offerynnau Gwerthuso Cyswllt Natur. Yn ogystal â siarad am y fethodoleg, bydd Joe hefyd yn rhannu astudiaethau achos i ddangos sut y caiff offerynnau gwahanol eu defnyddio ar hyn o bryd ledled Cymru.

Mae’r sesiwn yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio gyda natur i gefnogi eich arferion celfyddydol, iechyd a llesiant, naill ai fel artist, rheolwr celfyddydau, gweithiwr trydydd sector neu weithiwr proffesiynol.

Os na allwch chi ddod i’r sesiwn fyw ond yn dymuno gwylio’r recordiad yn eich pwysau, cofrestrwch am y digwyddiad a byddwch yn derbyn y ddolen drwy ebost yn ddiweddarach.

RHANNWCH