05.02.24 – 15.03.24
Ewch i weld dyddiadau’r daith Ie Ie Ie ac i brynu eich tocynnau!
Darn o theatr pwysig am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd.
Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop.
Gyda Juliette Manon yn cyfarwyddo, mae’r sioe yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad unigol bachog, a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu.