CWMWL TYSTION III | EMPATHY ar daith / on tour

Cerddoriaeth

Mae’r trwmpedwr Tomos Williams yn mynd ar daith ledled Cymru (ac un perfformiad yn Llundain) â’i gywaith cerddorol, arloesol Cwmwl Tystion. Hwn bydd y drydydd a pennod ola’r prosiect sydd yn ymwneud â hanes, diwylliant ac hunaniaeth Gymraeg.

Y tro hwn bydd cerddorion rhyngwladol, byd enwog a rhai o gantorion ifanc, mwya dawnus Cymru yn ymuno yn y band.

Bydd lleisiau cyfarwydd Mared Williams ac Eadyth Crawford yn sichrau elfen gref Gymreig i’r perfformiadau, tra bydd y baswr Melvin Gibbs yn dod draw o Brooklyn, Efrog Newydd a’r gitarydd Nguyên Lê yn ymuno o Ffrainc. Bydd Mark O’ Connor ar y drymiau a bydd celf weledol fyw Simon Proffitt yn ategu’r gerddoriaeth ym mhob perfformiad. Enw’r cywaith hwn bydd Cwmwl Tystion III / Empathy.

Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê yn gewri’r byd jazz yn rhyngwladol, a’r ddau yn enwog am ei defnydd o effeithiau electronig ar ei offerynnau. Galwyd Melvin Gibbs “The greatest bass player in the world” gan Time Out New York – mae wedi perfformio â pawb o Ornette Coleman i Henry Rollins, tra bod Nguyên Lê hefyd yn fyd-enwog am gyfuno dylanwadau o Vietnam gyda jazz – ‘world jazz’ neu ‘jazz fusion’.

Mae Tomos yn angerddol am ddod a cerddorion rhyngwladol o’r safon ucha’ i berfformio ledled Cymru, ac mae parodrwydd Melvin Gibbs a Nguyên Lê i ymgymryd â’r daith yn dyst i safon a bwriad y prosiect.

Teithiodd y bennod gynta’ o Cwmwl Tystion – Cwmwl Tystion/Witness yn 2019. Roedd y band yma yn cynnwys cerddorion o dras Cymraeg yn unig, megis Huw Warren, Rhodri Davies ac Huw V Williams, tra yn 2021 aeth Cwmwl Tystion II / Riot! a’r daith o Gymru â’r band y tro hwn yn cynnwys mawrion y byd jazz Prydeinig, Soweto Kinch ac Orphy Robinson. Cafodd y cyfansoddiad gwreiddiol y ‘Riot! Suite’ ei enwebu am wobr cyfansoddi Ivor Novello yn 2022 a cafodd yr albym Cwmwl Tystion / Witness ei enwebu am albym gorau’r flwyddyn yn 2021. Rhyddhawyd albym o gerddoriaeth y daith Cwmwl Tystion/ Riot! y llynedd yn ogystal.

Bydd y band yn perfformio gwaith newydd wedi’i gyfansoddi gan Tomos yr ‘Empathy Suite’ yn cynnwys elfennau gref o rock, jazz, cerddoriaeth werin Cymru, a byr-fyfyrio. Daw’r enw ‘Cwmwl Tystion’ o gerdd Waldo Williams ‘Pa Beth yw Dyn?’ tra bydd pob symudiad yn ymwneud â digwyddiad neu bennod yn hanes Cymru, e.e y Welsh Not, Aberfan 1966 a Streic y Glowyr 1984.

Dewisiwyd yr enw Saesneg ‘Empathy’ gan bod wir angen mwy o ddealltwriaeth a cydnabyddiaeth o brofiadau gwahanol ein cymdeithas ac wrth drafod yn y byd gwleidyddol yn gyffredinol ar hyn o bryd.

Yn cyfuno mawrion y byd jazz a cewri lleisiol ifanc Cymru mae Cwmwl Tystion III / Empathy yn argoeli i fod yn garreg-filltir i jazz o Gymru.

Bydd y daith yn ymweld â Bangor, Wrecsam (fel rhan o Wŷl y Wal Goch), Aberystwyth, Merthyr Tudful, Rhaeadr-Gwy, Caerdydd a Llundain.

Ariannwyd taith Cwmwl Tystion III / Empathy gan nawdd oddi wrth Cyngor y Celfyddydau Cymru, tra bod cyfansoddi’r ‘Empathy Suite’ wedi’i ariannu gan Tŷ Cerdd.

RHANNWCH