Nol ym mis Mawrth cyhoeddwyd Cronfa Fideos Cerddorol rhwng PYST Lŵp – 10 x £500 i fynd at greu fideo cerddorol artistiaid ar gychwyn eu gyrfa sy’n perfformio yn y Gymraeg.
Y cyntaf i dderbyn y nawdd yw’r artist arbrofol ifanc o Fachynlleth, Sachasom, sef Izak Zjalic, a gynigodd syniad mewn cyd-weithrediad â’r cwmni cynhyrchu cyffrous, Pypi Slysh (Sam Stevens a Sion Teifi Rees). Dywedodd Izak ynglŷn â chreu’r fideo:
“Roedd creu’r fideo gyda Sam a Sion o Pypi Slysh yn broses unigryw gan saethu mewn steil eithaf impromptu, yn seiliedig ar y syniad gwreiddiol a chafodd ei ysbrydoli gan y ffilm Climax gan Gaspar Noe. Er fod y fideo i ‘Agor’ yn eithaf abstract, trwy’r delweddau a symbolau wahanol mae yna naratif sy’n dilyn fy mhrofiadau yn y broses creadigol yn creu cerddoriaeth, wrth symud o’r purdeb o creu am mwynhad, i agweddau rwyf wedi etifeddu trwy darllen am philosophy ‘hauntology’ ac y pryderon o tyfu fyny. Mae hwn yn frwydr fewnol sydd yn cael ei chyflwyno dros fy albwm Yr Offerynnols Uffernoliadaus!, gyda’r nod o hybu’r syniad o greu cerddoriaeth sy’n naturiol i ti ac i beidio dilyn agenda unrhyw un arall. Cafodd y fideo ei ffilmio dros ddau leoliad sef hen dŷ a llosgodd lawr, The Vaults ym Mae Caerdydd, ac yn BEWT Studios.”
Bydd fideo ‘Agor’, sydd wedi’i gyfarwyddo gan Pypi Slysh, allan yr un diwrnod â’r sengl, 8 Gorffennaf. Tan hynny, dyma ambell i lun tu ôl i’r llen.