1. Ynglyn a’r Gronfa
Cronfa beilot newydd yw hon sy’n ymroddedig i gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth Gymreig ar lawr gwlad. Gan gynnig cefnogaeth i labeli, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda cherddoriaeth Gymreig ar hyn o bryd, bydd y cynllun peilot hefyd yn ceisio cefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad ehangach ar lefel gymunedol. Mae sîn gerddoriaeth Cymru yn ffynnu, a bydd y gronfa beilot hon yn anelu at gefnogi’r twf hwnnw trwy ariannu prosiectau a fydd yn cynnig gwydnwch hirdymor i weithgaredd cerddoriaeth Gymreig.
2. Cymhwysedd y Gronfa
2.1 Cymhwysedd Ymgeiswyr
Rydym yn croesawu ceisiadau gan labeli a sefydliadau sefydledig sy’n gweithio o fewn ecosystem cerddoriaeth Cymru ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn derbyn ceisiadau cydweithredol sy’n cynnwys partneriaethau rhwng mwy nag un sefydliad. Rhaid eich bod wedi bod yn masnachu am o leiaf 12 mis i wneud cais. Nid oes rhaid i chi gael eich dosbarthu gan PYST ar hyn o bryd i wneud cais am y gronfa.
Mae’r canlynol yn anghymwys ar gyfer y gronfa hon:
• Sefydliadau sydd wedi derbyn a/neu yn derbyn cyllid ar hyn o bryd gan Gronfa Refeniw Cerddoriaeth 2 (MRF2) Cymru Greadigol.
• Sefydliadau nad yw eu gweithgaredd craidd yn seiliedig ar gerddoriaeth.
• Artistiaid cerddoriaeth unigol.
• Sefydliadau neu unigolion nad ydynt wedi’u lleoli yng Nghymru.
• Busnesau newydd
• Sefydliadau sy’n gweithio’n bennaf ym maes cerddoriaeth glasurol.
• Sefydliadau sydd wedi bod yn masnachu am lai na 12 mis
Noder: nid yw artistiaid yn gymwys i wneud cais am y gronfa hon.
Nid oes anghenraid i chi gyflogi staff er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio am y gronfa hon, ond os ydych, mae’n rhaid iddyn nhw gael eu talu drwy’r system TWE (oni bai am weithwyr llawrydd):
a) Masnachwyr Unigol:
• Rhaid i chi dalu gweithwyr newydd sy’n gysylltiedig â’r cais hwn drwy TWE
• Os mai dim ond 1 person rydych chi’n ei gyflogi, rhaid iddyn nhw gael eu talu drwy’r system TWE
b) Cwmni Cyfyngedig:
• Yn cyflogi rhwng 1 a 249 o weithwyr drwy TWE o Ebrill 1af 2024 ymlaen
• Os mai dim ond 1 person rydych chi’n ei gyflogi, gall hwn fod yn berchennog y busnes, ond rhaid iddynt gael eu talu drwy TWE
Noder: dim ond un cais y gallwn ei dderbyn fesul sefydliad.
2.2 Gweithgaredd Cymwys
Gall eich prosiect gynnwys un, mwy nag un neu gyfuniad o weithgareddau, er enghraifft:
• Ymgyrchoedd rhyddhau recordiau (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i recordio)
• Fideos a ffilmiau (ond nid fideos cerddoriaeth ar gyfer trac sengl)
• Gweithdai
• Gweithgaredd blog/cylchgrawn
• Ymchwil
• Podlediadau/Radio
• Digwyddiadau rhwydweithio (gan gynnwys cynadleddau).
Noder: gall gweithgaredd y prosiect fod mewn unrhyw iaith.
2.3 Gwariant Anghymwys
• Gwariant cyfalaf, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: offer cerddorol, gwefannau, adeiladau
• Digwyddiadau perfformio byw gan gynnwys gigs a gwyliau
• Cymorth ariannol i deithiau artistiaid
• Ysgrifennu, cyhoeddi a hyrwyddo llyfrau
• Nwyddau bandiau
3. Amserlen y Gronfa
13 Awst 2025
Ceisiadau ar agor
3 Medi 2025
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau
Canol Medi 2025
Llythyrau grant yn cael eu danfon at ymgeiswyr llwyddiannus yn manylu ar delerau ac amodau’r gronfa, yr amserlen ac allbynnau prosiectau unigol. Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael gwybod am y rhesymau dros eu gwrthod.
1 Hydref – 31 Mawrth 2026
Cyflawni’r prosiect
Ionawr 2026
Cyfarfod diweddaru rhwng PYST Cyf ac arweinydd y prosiect
20 Mawrth 2026
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau terfynol y Prosiect a’r Adroddiadau Ariannol
30 Ebrill 2026
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Adroddiadau Gwerthuso Prosiect
4. Proses Ymgeisio
Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor o 13/08/25 i 03/09/25. Gallwch wneud cais drwy’r ffurflen gais yma. Gallwch hefyd wneud cais fideo neu sain – cysylltwch â alun@pyst.net am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r mater hwn.
Ynghyd â chwestiynau ynghylch data demograffig a manylion ymgeisydd, mae’r cwestiynau canlynol wedi’u cynnwys yn y ffurflen gais:
• Teitl Prosiect
• Dywedwch wrthym am eich prosiect (hyd at 500 o eiriau).
• Dywedwch wrthym am eich cefndir a’ch profiad (hyd at 300 o eiriau).
• Pwy fydd yn elwa o’ch prosiect? Dywedwch wrthym am bwy fydd yn cymryd rhan (hyd at 300 o eiriau).
• Pwy fydd yn rheoli’r prosiect?
• Sut fyddwch chi’n sicrhau y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen ac y bydd yn gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus? (hyd at 300 o eiriau)
• A yw’n bosibl addasu’r cynllun os cynigir llai o arian na’r swm gofynnol?
• Nodwch unrhyw risgiau posibl a allai rwystro cyflawniad y prosiect (hyd at 200 o eiriau).
• Beth ydych chi’n ei obeithio fydd effaith hirdymor y prosiect hwn? A fydd yn newid eich ffordd o weithio? A fydd y gweithgareddau, neu elfennau o’r gweithgareddau, yn gallu parhau? (hyd at 300 o eiriau).
• Dyddiad cwblhau’r prosiect.
• Dywedwch wrthym gyfanswm cost eich prosiect.
• Darparwch fanylion y gwariant.
Noder: rhaid i bob cais gynnwys llythyr cefnogi, y set ddiwethaf o gyfrifon a phrawf o gyfrif banc.
5. Proses Ddethol Ceisiadau
Bydd panel dethol sy’n cynnwys panelwyr annibynnol, a’i gadeirio gan Brif Weithredwr PYST yn cyfarfod ym mis Medi i ystyried pob cais. Gwneir y dewis gan ddefnyddio’r meini prawf gwerthuso canlynol:
• Pa gymuned(au) fydd yn elwa o’r prosiect?
• Faint o artistiaid fydd yn elwa o’r prosiect?
• Faint o gyfleoedd fydd yn cael eu creu?
• Cryfder a hanes ymgeiswyr.
• Asesiad o risg y prosiect.
• Gwydnwch ac effaith hirdymor y prosiect
• Effaith ar yr iaith Gymraeg
• Cydraddoldeb a chynhwysiant y prosiect.
• Effaith amgylcheddol.
6. Taliad
• Y swm uchaf y gellir gwneud cais amdano yw £5,000.
• Mae gan PYST Cyf yr hawl i gynnig llai na’r swm a ofynnwyd amdano yn eich cais.
• Os yw cyllideb y prosiect yn cynnwys costau staff, bydd angen cadarnhad o TWE arnom ar gyfer yr holl staff, oni bai eu bod yn llawrydd.
• Gellir hawlio 50% o’r taliad mewn ôl-ddyledion ynghanol y prosiect ar ôl derbyn prawf o wariant.
• Bydd taliad yn cael ei wneud o fewn 28 diwrnod i Adroddiad Prosiect ac Ariannol terfynol eich prosiect.
• Mae’n rhaid i chi ddarparu prawf yn eich Hawliad terfynol bod yr holl wariant wedi digwydd rhwng 1 Hydref 2025 a 31 Mawrth 2026.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gronfa, cysylltwch gyda alun@pyst.net.