Yn y chwedegau, anogwyd ‘Mamau America’ i yrru eu plant i’r sinema gan y bardd Americanaidd Frank O’Hara – yn chwareus felly. O leiaf byddai gobaith wedyn na fyddent yn stelcian yn eu llofftydd ‘yn eich casáu cyn pryd, a chithau ddim wedi gwneud dim byd rhy gas eto’ (‘Ave Maria’). Petai O’Hara wedi byw yn ddigon hir i weld yr wythdegau, ac yn siarad Cymraeg, digon posib y byddai’r llinellau hyn wedi eu diweddaru fel hyn: ‘Mamau Cymru, plîs, gadewch i’ch merched fynd i gigs Cymdeithas yr Iaith.’
Cefais fy magu yng ngorllewin Cymru mewn cornel ohoni a oedd, ar ddechrau’r wythdegau, yn amheus ynghylch yr iaith Gymraeg. Arbrawf o hyd oedd addysg Gymraeg ddwyieithog. Roedd yr 11+ yn dal ar gael i wahanu plant oddi wrth ei gilydd. Diwylliant cerddoriaeth yr iaith Saesneg oedd yn teyrnasu. Os mynychwyd ysgol ardal ddwyieithog newydd, ystyriwyd hynny’n gryn dipyn o newyddion. Wedi fy ngwisgo mewn ffrog binaffor drom o wlân Cymreig pinc a du, byddwn yn cael fy ngwawdio weithiau a fy ngalw’n ‘Welsh Nash’. Dyna oedd natur yr hunangasineb diwylliannol yn fy rhan i o’r byd.
Yn lle gwrando ar drac sain ska ôl-pync fel ag yn yr ysgol gynradd, roeddwn i bellach yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, a’r rhan fwyaf o’r traciau yn gerddoriaeth roc wedi dyddio. Yr argraff sydd gen i hyd heddiw o gerddoriaeth Gymraeg y cyfnod hwn (1982-85) yw o gerddoriaeth wrywaidd wedi ei chwarae gan flewgwn. Prin oedd yr apêl i ferch ifanc llawn rhamant yn ei harddegau a oedd wedi gorchuddio waliau ei llofft gyda phosteri o ddynion ifanc yn gwisgo colur. Roedd y dynion hoenus hyn yn datgelu rhywbeth o gyfaredd rhywioldeb, a gallwn i synhwyro hynny ond nid ei gyffwrdd. Mannau oedd y rhain yr oeddwn eto i ymweld â nhw. Ychydig a ddywedai eu hwynebau trwm dan golur wrtha i am fywyd bob dydd yng ngorllewin Cymru.
Pan yn bymtheg oed, newidiodd rhywbeth. Roeddwn dan yr argraff fod hynny oherwydd gweithgareddau cell Cymdeithas yr Iaith yr ysgol. Dechreuodd y disgyblion iau gynhyrchu cylchlythyr gyda’r enw gwych Brych ecs Collwyn ap Tango, teitl a aeth yn fwy ac yn fwy dryslyd yn ystod hanes byr y cylchlythyr. Cafwyd gwybodaeth am ymgyrchoedd y Gymdeithas ynddo yn ogystal ag adolygiadau o gerddoriaeth a gigs. Daliwyd fy sylw gan hysbys ar gyfer detholiad EP er budd hawliau anifeiliaid, Dyma’r Rysáit (1987). Archebais gopi a darganfod am y tro cyntaf y grwpiau Datblygu, Crisialau Plastig, Plant Bach Ofnus ac Eirin Peryglus. Eiconoclastiaeth y geiriau wnaeth fy nharo gyntaf, yn arbennig vignette swrealaidd Datblygu ‘Brechdanau Tywod’, am athrawon ysgol yn canmol eu bod yn bwyta malwod ar eu gwyliau yn Ffrainc. Hoffais ateb parod Crisialau Plastig hefyd, nad oeddent fyth bythoedd am fod yn fand yn byw a bod yng Nghaerdydd, ateb a chwaraewyd, yn eironig, ar deganau plant. Yna cefais gyfle i glywed Brodyr y Ffin, band o Gaer a oedd yn arbrofi efo synth, gitâr a ffidil.
Darllenwch yn llawn ar wefan pedwargwynt.cymru