Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Cribo’r Dragon’s Back’: Enillydd Gwobr Ysgrif 2021 O’r Pedwar Gwynt

Llenyddiaeth

Mae’n dechrau gydag enw. A hwnnw’n enw digon di-nod. Dianc i’r Mynyddoedd Duon yw’r bwriad, mynyddoedd mwyaf dwyreiniol de Cymru. Na ddylid eu cymysgu â’r Mynydd Du, sy’n gwarchod y ffordd rhwng Sir Gâr a Phowys. Na, edrych tua ffin arall mae’r rhain. Trwy lwc daearyddol, caiff un ohonynt ei hawlio gan y Ddraig Goch a San Siôr ill dau. Twyn Llech yw mynydd uchaf Lloegr i’r de o Swydd Efrog. Chwerthin tra’n sbio i lawr arno wna ei gymdogion Cymreig.

Tri chopa arall sydd ar ein rhestr ni, siâp pedol ar y map. Waun Fach yn y canol. Dyma’r rhiant – cyfrifoldeb sydd wedi gadael ei ôl. Er yn uwch, nid yw’n sefyll mor dal â Phen y Gadair Fawr i’r de-ddwyrain. Roedd ganddo simnai rywdro, ond mae honno wedi hen suddo i’r pridd. Mae hynny’n destun penbleth i gerddwyr sy’n chwilio am y man uchaf; ac yn siom i’r rhai â’u meddwl ar lun i brofi eu camp. I’r de-orllewin saif Mynydd Llysiau, yn wynebu Pen y Gadair Fawr ar draws y dyffryn ond yn anwybyddu ei frawd yn llwyr. Dyma’r byrraf o’r tri, ond nid yw’n un i ddioddef diffyg hyder. Does dim awydd ganddo i fod yn dal. Yn hytrach, ymfalchïa yn ei gefn hir a chul.

Ein cynllun yw troi’r bedol yn daith (sydd bron yn) gron: maes parcio > Mynydd Llysiau > Waun Fach > Pen y Gadair Fawr > Waun Fach > maes parcio. Ond dyw dianc ddim yn hawdd. Gwaith cynnal a chadw ar y ffordd … SatNav â’i feddwl ei hun … mwy o waith ar y ffordd … meddwl ein bod ni’n gwybod yn well na’r SatNav … Dyw dianc ddim yn deimlad cystal pan mae’r amserlen yn rhacs. Wedi gadael y car ym maes parcio tafarn – manylyn pwysig, dychwelwn at hyn – does dim eiliad i’w sbario. Chwilota ydyn ni am y cyfuniad perffaith: y perlewyg mae’r arbenigwyr yn addo a ddaw o symud y corff, ynghyd â’r hunanfoddhad o osod tic wrth bob mynydd ar ein rhestr.

Darllenwch yr ysgrif yn llawn, am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru.

RHANNWCH