Bob tro dwi’n eistedd i ysgrifennu’r darn hwn dwi’n teimlo’r ysfa i weu. Unffurf, ailadroddus, llonydd – saffach na sgwennu – a’r darn yn datblygu’n daclus, yn dilyn patrwm, cyn belled â bod rhywun yn dilyn y cyfarwyddiadau. Accretion ydi hyn, neu gytyfiant yn ôl y geiriadur, proses lle mae ymdeimlad o gyfanrwydd yn cronni mewn camau bychain, syml; proses sy’n esgor yn y pen draw ar y gestalt – y cyfanwaith yn ei holl gymhlethdod.
Wrth weu mae rhywun yn awdur ar bob math o bethau. Ar fathemateg ddiymwybod, er enghraifft, wrth i weu sgwâr (sgarff, siwmper, cwrlid) droi’n driongl (siôl) ac yn siapiau mwy haniaethol hefyd, gyda phrofiad – all ddod at ei gilydd i greu dilledyn. Gydag amser ac ailadrodd, daw geometreg yr arwyneb yn geometreg nad-yw’n-Ewclidaidd: daw siapiau fflat yn gromenni, yn donnau a silindrau, sy’n cydio i’r corff mewn ffurfiau sy’n crymu, crebachu ac ehangu (hosan, maneg, béret).
Darllenwch yn llawn ar wefan pedwargwynt.cymru.