CoDI one2one: Ashley John Long – my way is in the sand flowing

CoDI UN-i-UN yw cyfle Tŷ Cerdd a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyfansoddwyr mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud presennol yn y DU yn sgil pandemig y coronafeirws.
Yn dilyn galwad agored, cafodd 10 cyfansoddwr sy’n wynebu’r cyfyngiadau symud yng Nghymru’n eu dethol i gyfansoddi darn munud neu ddwy ar ei hyd i offeryn cerddorfaol unigol – ac yn cael cynnig ffi gomisiwn o £100. Cafodd pob cyfansoddwr ei baru ag aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a fydd yn recordio’r gwaith newydd yn ei gartref ei hun.
Menter datblygu cyfansoddwyr Tŷ Cerdd yw CoDI a bydd Tŷ Cerdd yn cynnig cefnogaeth a mentora i artistiaid yn ystod y broses gyfansoddi. Bydd pob artist yn derbyn recordiad o’r gwaith sy’n deillio o hyn a bydd Tŷ Cerdd yn cynnig cyhoeddi’r gwaith gyda gwasgnod Cyhoeddiadau Tŷ Cerdd.

RHANNWCH