Roedd Clara, neu Clare Deniz yn un o’r ychydig gerddorion du o Gymru oedd ar y sîn yn Llundain yn y tridegau. Pianydd oedd hi a pherfformiodd gyda rhai o enwau mawr y cyfnod, gan gynnwys Fela Sawale, Happy Blake a Leslie Hutchinson.
Fe’i ganwyd yn Grangetown, Caerdydd ar y 30 Medi 1911. Morwr o Barbados oedd ei thad, Frederick Wason, a daeth ei mam, Bessie, o Wlad yr Haf. Bu farw Frederick yn y Dreadnought Seaman’s Hospital yn Greenwich o’r ddarfodedigaeth pan oedd Clara ond yn ddeunaw mis oed. Wedi colli ei thad, aeth Clara a’i mam i aros at Mrs Knight yn yr un ardal; dynes ddu oedd hi a ddaeth o deulu theatrig ym Mryste. Magodd Mrs Knight Clara gyda’i nith ei hun ac yn y cartref yma daeth Clara i fyd cerddorol. Dysgodd yn bedair oed i ganu’r piano a’r ukulele. Ymddengys fod cerddoriaeth Hawaii yn boblogaidd ym Mae Caerdydd ar y pryd, gyda llawer yn canu’r gitar ac offerynnau tebyg. Doedd jazz ddim wedi cyrraedd y ddinas eto; wrth iddi dyfu byddai Clara yn perfformio mewn dawnsfeydd yn yr eglwys.
Gadawodd Clara yr ysgol yn un ar bymtheg oed a dechrau perfformio gyda Waldini – “Mr Music” Caerdydd ar y pryd. Byddai ei fand “Waldini’s Gypsy Band” yn perfformio ym Marc y Rhath.
Ym 1936 teithiodd i Lundain gyda’i ffrind Don Johnson ac ymunodd â’r gitarydd Joe Deniz, oedd yn dod o Butetown, Caerdydd, ac esgus eu bod yn Americanwyr. Sefydlodd fand ei hun – “Clara Wason’s Hawaiians”. Un o’r aelodau oedd Frank Deniz – brawd Joe. Ac ar 8fed Awst 1936 priododd Clara a Frank yn Eglwys y Forwyn Fair yng Nghaerdydd. Symudon nhw i Lundain a chael hyd i ystafelloedd yn Euston, cyn symud i Soho a chymryd unrhyw waith a ddaeth.
DARLLEN MWY