Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli ac yn dathlu diwylliant llenyddol Cymru adref a thramor. Mae’r prosiect, a reolir gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol â chyfrifoldeb dros ddatblygiad llenyddiaeth, yn cyflwyno barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd ac yn annog pobl i ddefnyddio eu lleisiau creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol. Dyma’r tro cyntaf y bydd y sefydliad yn penodi trwy alwad cyhoeddus am enwebiadau.
Sefydlwyd prosiect Bardd Cenedlaethol Cymru gan Llenyddiaeth Cymru yn 2005. Eu gweledigaeth yw Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella, ac yn cyfoethogi bywydau. Mae gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru yn rhan allweddol o’r weledigaeth honno.
Y Bardd Cenedlaethol cyfredol yw Ifor ap Glyn. Yn ystod ei gyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru mae Ifor wedi bod yn lysgennad diwylliannol i Gymru a’i llenyddiaeth, ac mae’r rôl wedi galluogi iddo deithio’r byd. Mae ei farddoniaeth wedi ymddangos ar drafnidiaeth gyhoeddus ym Mrwsel a’i daflunio ar ochr Big Ben. Mae wedi ei gomisiynu i lunio cerddi a rhyddiaith i nodi achlysuron niferus yn ystod ei gyfnod yn y rôl, gan gynnwys nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan; Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019; 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru; heb sôn am nifer o achosion cymdeithasol, penblwyddi arbennig ac uchelfannau’r tîm pêl-droed cenedlaethol.
“Rydyn ni’n wlad lle mae geiriau a thelynegiaeth yn mynd law yn llaw ac mae rôl Bardd Cenedlaethol Cymru yn dyst i’r pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi ar iaith. Boed ar y dudalen neu ar y llwyfan, bu Ifor ap Glyn yn ein gwefreiddio a’n hysbrydoli drwy ei rôl, ond hefyd yn ymateb i’r byd o’n cwmpas a’i adlewyrchu, gan ein helpu i wneud synnwyr ohono.” – Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
Daw cyfnod Ifor i ben ym mis Mai 2022, pan y bydd yn trosglwyddo’r awenau i bumed Bardd Cenedlaethol Cymru.
Gan gynrychioli diwylliannau ac ieithoedd amrywiol Cymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol, bydd Bardd Cenedlaethol Cymru yn eirioli dros hawliau creadigol ac yn atgyfnerthu’r neges fod llenyddiaeth yn perthyn i bawb. Yn ogystal, byddant yn rhoi llwyfan barddol i faterion cyfredol o bwys, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, cynrychiolaeth ac iechyd a llesiant.
Mae gwahoddiad i feirdd enwebu eu hunain; a gall unigolion, sefydliadau, grwpiau ac elusennau enwebu eu hoff fardd ar gyfer y rôl. Mae pob Bardd Cenedlaethol yn rhoi eu stamp eu hunain ar y rôl, ac mae galwad Llenyddiaeth Cymru yn pwysleisio fod potensial bardd yn bwysicach na’u profiad. Yn bwysicaf oll rhaid bod y bardd yn ymroddedig i ddefnyddio eu llais unigryw i gyfareddu ac ysbrydoli pobl drwy farddoniaeth, ac i rannu Cymru a’i llenyddiaeth â’r byd.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae beirdd ledled y byd yn chwarae rhan pwysig ym mywydau pobl, ac yn aml caent eu gwahodd i ddarllen eu gwaith i nodi digwyddiadau cenedlaethol arwyddocaol, i ddathlu ac i alaru. Mewn cyfnod o ansicrwydd a rhwygau byd-eang, mae barddoniaeth yn ein huno ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r byd.
Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn Fardd Cenedlaethol rhagorol i Gymru, a mawr yw ein diolch iddo am ei holl waith. Llongyfarchiadau gwresog iddo ar ei holl lwyddiannau, ac am wireddu ei weledigaeth uchelgeisiol.
Wrth i ni gychwyn ar bennod nesaf y prosiect arbennig hwn, edrychwn ymlaen at groesawu Bardd Cenedlaethol newydd i’r rôl i’n cynorthwyo ninnau i wireddu ein gweledigaeth ein hunain o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau.”
Gellir enwebu bardd trwy lenwi ffurflen ar wefan Llenyddiaeth Cymru (www.llenyddiaethcymru.org), lle ceir hefyd ragor o wybodaeth am y broses. Mae Llenyddiaeth Cymru yn derbyn enwebiadau tan 14 Mawrth 2022.