Chwilio am anrhegion Nadolig? – Nofelau Ffantasi

Llenyddiaeth

Bu’n flwyddyn arbennig i unrhyw un sy’n mwynhau nofelau gydag elfen o ffantasi.
Dyma chwe cyfrol a fyddai’n gwneud anrhegion gwych.

Madws gan Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Yn 1752 newidiodd y calendr a chollodd pawb un ar ddeg diwrnod. Pawb heblaw am Martha. Ac mae’r hyn a ddigwyddodd i Martha yn ystod y cyfnod erchyll hwnnw wedi bod yn felltith arni am weddill ei hoes. Dim ond Madws all godi’r felltith. Nofel ffantasi hanesyddol hawdd ymgolli ynddi – ond rywsut, mae byd Madws mor gyfredol yr un pryd…

Trigo gan Aled Emyr (Y Lolfa)
Mae teyrnasiad y Brenin Peredur dan fygythiad, ac mae’r tensiwn rhwng y Pedair Ynys ar fin ffrwydro. Daw arglwyddi’r ynysoedd draw i’r brifddinas ar Ynys Wen gyda chynllun i ddisodli’r brenin, sy’n rhoi bywyd Siwan, ei ferch mewn perygl. Mae’n rhaid iddi aberthu ei breuddwydion a dianc o Borth Wen er mwyn ceisio aros yn ddiogel…

Cysgod y Mabinogi gan Peredur Glyn (Y Lolfa)
Ers milenia mae cwlt wedi bod wrthi yn y cysgodion yn paratoi ar gyfer eu seremoni olaf, un a fydd yn newid y byd. Mae’r awr bron a chyrraedd. Noor yw’r Gwyliwr. O’i thŷ unig ar y clogwyn, ei dyletswydd yw gwarchod glannau Cymru rhag hunllefau’r gorffennol. Nawr mae’n rhaid iddi ddewis pwy yw ei ffrindiau, pwy yw ei gelynion – a pha mor bell mae hi’n fodlon mynd er mwyn stopio’r cwlt…

Llwybr Gwyn yr Adar gan Alun Jones (Gwasg y Bwthyn)
Dyma nofel glo trioleg y tiroedd gan yr awdur adnabyddus, Alun Jones. Wrth i’r rhyfela rhwng y Fyddin Lwyd a’r Fyddin Werdd barhau mae’n dilyn hanes Gaut a Bo a’u teuluoedd wrth iddynt fynnu byw bywyd callach, gan herio’r hen gredoau, ceisio llwybrau newydd a chodi llais dros y gwir. Mae’r prolog ar ddechrau’r gyfrol yn grynodeb o’r ddwy nofel arall yn y gyfres Lliwiau’r Eira a Taith yr Aderyn.

Hei Fidel! gan Pryderi Gwyn Jones (Gwasg Carreg Gwalch)
Athro Cymraeg canol oed cyffredin yw Jones, yn amyneddgar yn y Dosbarth, yn gefnogol I’w wraig ac yn ddylanwad da a rei blant. Ond yn oriau tywyll y nos mae Jones yn gwrthryfela, ac yn rhan o ymgyrch I dalu’r pwyth yn ol am un o’r camweddau mwyaf yn holl hanes Cymru. All Jones, gyda chymorth Bob Marley, Bendigeidfram, Fidel Castro, Oppenheimer a Jemimia Niclas a gweddill criw Seion, ddinistrio dinas Lerpwl?

Meirw Byw gan Rolant Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)
Tydi bywyd ddim yn hawdd i Gwen ac Idris. Mae eu tad wedi colli’r plot a’u mam wedi cael ei chipio I’r is-fyd drwy dwll yn y seler, ac mae’n rhaid iddyn nhw ofyn am gymorth y Meirw Byw er mwyn ei chael yn ôl. Daw’r ddau i ddeall fod ochor gudd I Gymru yn llawn creaduriaid y tu hwnt I’w hunllefau gwaethaf, ac y bydd angen iddynt frwydro yn erbyn pwerau tywyll er mwyn achub eu mamwlad.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH