Chwilio am anrhegion Nadolig?

Llenyddiaeth

Dyma ambell gyfrol fyddai’n gwneud anrhegion Nadolig gwych.

Casglu Llwch – Georgia Ruth (Y Lolfa)
Casgliad o fyfyrdodau a thraethodau personol. Yn sbardun i bob pennod mae byd natur. Ond nid llyfr natur mohono. Wrth iddi ystyried blodau, cerrig, esgyrn, adar, cawn ein tywys ar drywydd annisgwyl i grombil ei phen. Cawn gipolwg ar ei bywyd wrth iddi rannu atgofion a chanfyddiadau, a cheisio gwneud synnwyr o’r byd a’i bethau.

Cariad yw – Casi Wyn (Barddas)
Emyn i’r oes sydd ohoni yw’r gyfrol hon. Mae cariad yn pwlsadu drwy’r cerddi am fyw ac am gofio. Yn ganiadau i dymhorau bywyd a helbul byd, atseinia’r cyfan fel nodau sy’n llenwi’r mudandod.

Hi / Hon – Gol. Catrin Beard ac Esyllt Lewis (Honno)
Casgliad yw hwn o straeon/ysgrifau gan 10 awdur sy’n uniaethu fel menywod ac sy’n byw yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn sôn am eu profiadau. Mae’r cyfuniadau yn amrywio o ran genre, arddull ysgrifennu, naws, hyd, profiad a chefndir yr awdur.

Merch y Wendon Hallt – Non Mererid Jones (Gwasg Carreg Gwalch)
Beirniad cystadleuaeth y Stori Fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw Myfi. Wrth dafoli gwaith y cystadleuwyr mae hi’n myfyrio ar ei bywyd ei hun: ar ei magwraeth ym Mhen Llŷn, ei gwaith academaidd, ar garwriaethau a dod yn fam.

V+Fo – Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
Stori ramant unigryw sydd yn delio gyda’r cymhlethdodau sydd yn datblygu wrth i gwpl ifanc wahanu a thrio magu plant. Dyma ffuglen sydd yn torri tir newydd gan gynnig darlun realistig o fywyd teulu mewn cartref yn llawn rhyfeddodau ieithyddol. Nofel sy’n cynnig cipolwg ar Gymru gyfoes heb ffilter.

Oedolyn (ish) – Melanie Owen (Y Lolfa)
Mae Melanie Owen ar fin troi’n dri deg, ac wrth edrych yn ôl ar ei hugeiniau, mae hi wedi sylweddoli cymaint o gamgymeriadau wnaeth hi. Ond fel mae sawl person doeth wedi’i ddweud (Socrates, Buddha, Huw Ffash), mae camgymeriadau yn gyfleoedd i ddysgu, felly dyma Melanie yn trawsnewid ei methiannau i wersi bywyd.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH