Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cerdded y Caeau – Rhian Parry (Y Lolfa)

Llenyddiaeth

Prynwch eich copi o ‘Cerdded y Caeau’ yma

Rhian Parry sy’n mynd â ni am dro drwy’r caeau i ddatgelu’r hanes sydd yn celu yn eu henwau.

“Mae enw’n fwy na label. Yn wir gallwn gyffwrdd â ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’ mewn enw.”

Mae’r gyfrol hardd hon yn llawn lluniau lliw a mapiau sy’n rhan o ymchwil doethuriaeth yr awdur. Dadansoddir enwau ffermydd a chaeau hen gwmwd Ardudwy gan ddangos beth maent yn ei ddadlennu am dirwedd a chymunedau hynafol. Ychwanegwyd rai enghreifftiau y tu hwnt i Ardudwy, sydd hefyd yn rhan o’n hetifeddiaeth genedlaethol.

Mae enwau o bob math yn gwegian dan fygythiad newidiadau cymdeithasol, heb ddeddf i’w gwarchod. Mae’r llyfr hwn yn cynnig patrwm i ardaloedd eraill trwy ddangos ffordd newydd o edrych ar fân enwau, un sy’n gallu mynd â ni’n ôl i’r hen oesoedd. Cyfrol drawiadol i’w mwynhau gan bawb sydd â diddordeb mewn cymeriad a hunaniaeth bro.

Mwy am Rhian Parry yma

RHANNWCH