Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cerdded Rhaff

Llenyddiaeth

Cerdd a gyfansoddwyd yn rhan o #Her100Cerdd 2017 ar gais meddwl.org.
Bardd: Iestyn Tyne

Ffin denau yw hi o hyd;
rheffyn o ffin frau sy’n
llosgi dy draed
gam i ffwrdd o’r dibyn,

a gallai’r gwynt dy gipio
a dy daflu i lawr, lawr
yn siwrwds ar y graig;

mor hawdd i’r môr oer
diddeall
dy ddwyn wedyn….

Ond mae’r dwylo yma’n
estyn amdanat
yn dy iaith dy hun drwy’r
storm

ac er mor denau’r ffin
os disgynni, dwi yma.

Mae lle i iechyd meddwl mewn gwaith creadigol hefyd, darllenwch fwy yma

RHANNWCH