Mae Cerdd Tafod Arall | Music of Another Tongue yn brosiect a arweinir gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. Fe heriodd ei hun a chwe bardd sy’n adnabyddus am eu defnydd arbrofol o iaith i ddysgu am y gynghanedd a’i defnyddio yn un o’u cerddi. Yn dilyn fflachwers ar y gynghanedd dan arweiniad Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, cyfansoddodd y beirdd ddarn a ysbrydolwyd gan yr hyn y gwnaethant ei ddysgu am y grefft arbennig hon.
Dyma albwm o’u gwaith, gyda chyflwyniad gan Hanan Issa.