Celf ar y Cyd

Beth yw Celf ar y Cyd? | What is Celf ar y Cyd?

CYMRAEG | WELSH
Grŵp o bedwar prosiect yw Celf ar y Cyd sydd wedi’u datblygu i rannu y celfyddydau ar draws Cymru mewn ymateb i’r argyfwng iechyd presennol. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth gan Llywodraeth Cymru.
1. Helpwch i guradu arddangosfa o waith celf yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru ac mewn orielau ledled Cymru drwy Art 100 Celf. Dywedwch wrthym beth ddylai fod yn cael ei arddangos yn eich barn chi drwy hoffi’r gweithiau celf neu drwy adael sylwadau.
2. Cylchgrawn celfyddydau digidol newydd – Cynfas – sy’n ennyn lleisiau newydd ac amrywiol o amgylch casgliadau celf Amgueddfa Cymru.
3. Cyfres o gomisiynau celf newydd yn gofyn i artistiaid o Gymru weithio gyda’u cymunedau eu hunain i ymateb i’r argyfwng iechyd.
4. Mae ysbytai maes wedi’u troi’n orielau, ac mae adnoddau celf mewn iechyd newydd wedi’u datblygu ar gyfer staff y GIG i helpu cleifion i wella.

RHANNWCH