Cartref digidol diwylliant Cymru.

Carys ac Andy gan Elin Gwyn

FfilmTheatr

Cynhyrchiad BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru

“Dwi’n methu chdi gymaint…”

Wrth i’r cyfyngiadau symud gadw Carys ac Andy ar wahân, mae’r cwpl yn troi at Zoom a FaceTime i gadw mewn cysylltiad.

Ond rhwng yr ymarfer corff dyddiol, y potsian yn yr ardd a’r downars amser gwely, nid yw caru yn y clo mawr yn hawdd.

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed

Cast: Tara Bethan, Carwyn Jones, Sara Gregory
Cyfarwyddwr: Ffion Dafis
Dramatwrgiaeth: Alice Eklund
Cynhyrchydd: Lois Gwenllian
Rheolwr Llwyfan: Ffen Evans
Capsiynydd: Elin Phillips

Mae Carys ac Andy yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

 

RHANNWCH