Cartref digidol diwylliant Cymru.

Canllawiau Galwad Agored Sesiynau – Gŵyl Tawe

Trosolwg

1. Beth yw’r project?

Mae Menter Iaith Abertawe a Gŵyl Tawe yn chwilio am bump gwneuthurwr ffilm i gydweithio ar gyfres newydd o ffilmiau sy’n dogfennu sesiynau byw yn arwain at Ŵyl Tawe 2026.

Bydd pob gwneuthurwr ffilm yn gyfrifol am gynhyrchu un ffilm fel rhan o’r gyfres, yn tynnu sylw at un artist/band sydd wedi perfformio fel rhan o’r ŵyl ers ei sefydlu yn 2021, ac yn ffilmio mewn lleoliad unigryw o amgylch Abertawe

2. Pa artist neu fand fyddwch chi’n ffilmio?

Bydd yr artist neu fand yn cael ei neilltuo ar gyfer pob gwneuthurwr ffilm llwyddiannus.
Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud gan Tomos Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe a Gŵyl Tawe.

3. Ym mha leoliad yn Abertawe fyddwch chi’n ffilmio?

Bydd y lleoliad yn cael ei neilltuo ar gyfer pob gwneuthurwr ffilm llwyddiannus.
Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud gan Tomos Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe a Gŵyl Tawe.

Bydd pob lleoliad yn ardal Abertawe, a bydd y penderfyniad yn cael eu gwneud yn seiliedig ar argaeledd y lleoliad, yr artist/band, a’r gwneuthurwr ffilm.

Mae lleoliadau blaenorol wedi cynnwys:

  • Kardomah
  • Swansea Grand Theatre
  • Swansea Arena
  • The Bunkhouse

Cyllideb a thaliadau

1. Faint fydd pob gwneuthurwr ffilmiau yn cael ei dalu a sut?

Bydd pob gwneuthurwr ffilmiau llwyddiannus yn cael ei dalu swm o £600.

Bydd y swm yma yn cael ei dalu ar ôl cyflwyno’r ffilm.

Pwysig: Mae’r gyllideb hon yn cynnwys llafur, costau teithio, golygu, sain ac ati. Gall Menter Iaith Abertawe darparu technegydd sain, ond bydd angen tynnu’r gost yma o’r gyllideb. Nid yw costau lleoliad yn rhan o’r gyllideb yma a bydd y rhain yn cael eu cyfro ar wahân.

Amserlen

1. Galwad agored ar agor o:
24/11/25

2. Dyddiad Cau:
12/12/25

3. Cwblhau y prosiect erbyn:
Diwedd Mawrth 2026

4. Dyddiad yr Ŵyl:
Dydd Sadwrn 6.6.2026

Sut mae’r broses ddethol yn gweithio? How does the selection process work?

Bydd panel o Gŵyl Tawe ac Am yn dewis pum gwneuthurwr ffilm o’r holl geisiadau a dderbynnir. Rydym yn annog ceisiadau gan wneuthurwyr ffilm o bob lefel brofiad. Bydd y ceisiadau llwyddiannus yn cael eu dewis yn seiliedig ar eu gallu i gwblhau’r prosiect o fewn yr amserlen, eu cydweddoldeb â’r band neu’r artist, a’u lleoliad.

Oherwydd yr amserlen gyfyngedig, efallai bydd yna flaenoriaeth i wneuthurwyr ffilm sy’n byw yn neu o amgylch Abertawe, gall rhai lleoliadau godi ar fyr rybudd ac felly bydd angen i’r gwneuthurwr ffilm fod ar gael yn Abertawe ar fyr rybudd.

Hawliau / Darlledu / Hyrwyddo:

1. Sut mae’r hawliau’n gweithio?

Bydd hawliau’r ffilm yn gorffwys gyda’r gwneuthurwr ffilm. Bydd y gwneuthurwr ffilmiau yn ymrwymo i gynnwys unrhyw logos a ddarperir gan Gŵyl Tawe a Menter Iaith Abertawe.

2. Sut fydd fy ffilm yn cael ei ddarlledu?

Bydd y ffilm yn cael ei dangos gyntaf yn ddigidiol ar Am. Bydd y ffilm yn byw ar Am yn ecsgliwsif am gyfnod o wythnos ac yna gall y gwneuthurwr ffilm ei rhannu fel y dymunir. Bydd y ffilmiau hefyd yn rhan o leinyp Gŵyl Tawe, lle gall cynulleidfaoedd fwynhau’r holl ffilmiau gyda’i gilydd yn ystod dangosiad sinema arbennig ar ddiwrnod yr ŵyl.

3. Sut fydd fy ffilm yn cael ei hyrwyddo?

Bydd y ffilm yn cael ei hyrwyddo ar dudalen flaen Am fel rhan o ymgyrch farchnata eang ar gyfryngau cymdeithasol, a gynhelir mewn cydweithrediad rhwng Am, Menter Iaith Abertawe, a Gŵyl Tawe. I’r diben hwn, bydd angen i’r gwneuthurwr ffilm ddarparu clip byr o’r ffilm a ‘still’ o safon uchel o’r ffilm. Disgwylir i’r deunyddiau hyn gael eu darparu gan y gwneuthurwr ffilm o fewn cyllideb y prosiect.

Ffurflen Gais

Bydd y ffurflen gais yn cymryd tua 2 munud i’w llenwi. Gallwch wneud eich cais yma.
Os hoffwch chi wneud cais fideo neu sain, cysylltwch gyda swyddfa@menterabertawe.org am fwy o wybodaeth.

RHANNWCH