Cartref digidol diwylliant Cymru.

Candelas – Y Gyllell Lemon

Cerddoriaeth

Ers rhyddhau eu EP cyntaf bron i bymtheg mlynedd yn ôl yn 2011 mae Candelas wedi parhau i’n diddanu gyda 3 albym amrywiol a’u henw yn dal i weld ar line-ups mwyaf y calendr Cymreig.

Mae hwn yn fideo arbennig wedi ei gyfarwyddo gan y cerddor Dafydd Owain ar gyfer trac newydd fydd yn ymddangos ar eu pedwerydd albym i ddod eleni. Trac sy’n gymysgedd hyfryd o sŵn ddoe a heddiw y band, a delweddau trawiadol-wahanol y fideo’n cyd-fynd i gyflawni’r darlun.

Dyma Candelas gyda ‘Y Gyllell Lemon’.

Cyfarwyddo: Dafydd Owain
DOP: Andy Pritchard
Cynhyrchu: Elis Derbyshire
Uwch Gynhyrchu: Aled Wyn Jones
Cynorthwydd Props: Eleri Parry
Cerddoriaeth – Candelas
Cyhoeddiadau IKACHING
Cymysgu a Mastro – Ifan Emlyn

Gyda diolch i –
Theatr Bara Caws
Non Griffiths
Llion Williams

RHANNWCH