Symffoni unigryw dan arweiniad coedwigoedd glaw Cymru.
Caif y Symffoni Coedwigoedd Glaw, CÂN Y COED, ei lansio ar gyfer Heuldro’r Haf 2022. Mae’n grymuso llais newydd drosein hecoleg fregus ac yn gwahodd pobl i ymgysylltu â’r amgylchedd trwy gydweithrediad unigryw â natur, wrth i niglywed coedwigoedd glaw Cymru yn canu oddi tan y rhisgl am y tro cyntaf.
Treuliodd y cyfansoddwr a’r artist sain amgylcheddol â nam ar y clyw, Cheryl Beer, y fwyddyn ddiwethaf yn gweithiogyda choedwigoedd glaw hynafol Cymru, yn cyfansoddi cerddoriaeth seiliedig ar y systemau fasgwlaidd yn y pedwarcloan bregus sy’n weddill. Mae ei gwaith yn uno tiroedd Celtaidd hynafol a oedd gynt wedi’u cysylltu dan y pridd drwyedafedd mân, pluog o fwng myceliwm, fel un goedwig law odidog.
Trwy ailbwrpasu teclynnau clyw ac offer bioeddygol sensitif, mae Cheryl wedi coladu’r biorhythmau a grëwyd ganddargludedd yn nyfnderoedd coed, rhedyn a mwsogl, a defnyddio’r darlleniadau hyn i gyfansoddi Symfoni Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED. Mae’n datguddio sgyrsiau â natur nas clywid o’r blaen, ac mae pob nodyn yn dod o’r coed hynafol,rhedyn a mwsogl eu hun. Trwy gyuno’r celyddydau a thechnoleg arloesol, mae fordd unigryw Cheryl o gyfansoddi cerddoriaeth yn codi ymwybyddiaeth o’r ecosystem hon sydd o bwys byd-eang.