Cerddoriaeth

Mae ‘The Voice’ yn gydweithrediad rhwng Ogun ac Aisha Kigs sy’n ymgorffori naws hunaniaeth, hanes a chyd-destun cymdeithasol Ogun. Gan gyfeirio at faterion cyfiawnder cymdeithasol lleol yn achos Christopher Kapessa a Siyanda Mngaza, dau berson lleol sydd wedi dioddef yn nwylo’r system, mae Ogun yn plethu ei stori bersonol â straeon ei gymuned; cymuned sy’n parhau i fod yn agos at ei galon. Cyfeiria at luosogrwydd ei etifeddiaeth a’i hunaniaeth; Cymraeg, Nigeriaidd, Togoaidd ac Eidaleg.

RHANNWCH