1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?
Fel siaradwr Creol Ffrengig yn byw yng Nghymru, roedd gen i ddiddordeb mewn ymchwilio i berthnasoedd rhwng diwylliant Cymru, y Gymraeg, a’r llais creadigol. Gweithiais gydag Academi Iaith Gymraeg Prifysgol Caerdydd, a datblygwyd ymholiad bwrpasol i gysylltu â phobl o bob rhan o’r Brifysgol gan gynnwys myfyrwyr, staff ystadau, staff y llyfrgell, cyfathrebu a marchnata, yr Is-ganghellor, undeb y myfyrwyr, academyddion, a chyn-fyfyrwyr.
2. Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?
O’r cychwyn cyntaf, cefais fy nghroesawu i’r gymuned a chael profiad o agwedd flaengar a gweledigaethol tuag at y Gymraeg, sydd wedi’i gwreiddio i wead y Brifysgol. Roeddwn yn rhan o gyfres ddwys o sgyrsiau i ddeall mwy am berthynas unigol pobl rhwng iaith ac ymarfer, mewn achosion lle mae’r iaith yn bodoli. Roedd y sgyrsiau yn gyffrous ac yn amrywiol iawn gan neu fod wedi ei harwain gan ddiddordebau ymchwil pobl, er enghraifft y berthynas rhwng llenyddiaeth, iaith a cherddoriaeth; ecoleg gymunedol a bioamrywiaeth; trallod hinsawdd a hunaniaeth gymdeithasol.
3. Beth sydd nesaf?
Mae’r ymchwil wedi datgelu ystyron Cymraeg a diwylliannol, i siaradwyr a chefnogwyr yr iaith, a sut y gall hyn weithiau arwain at ymateb gelyniaethus. Rwyf wedi rhannu canfyddiadau drwy gydol y flwyddyn, sydd wedi cyfrannu’n bwrpasol at y gwaith parhaus sy’n gysylltiedig â Strategaeth y Gymraeg a llunio naratif diwylliannol blaengar. Mae’r Brifysgol newydd agor adeilad newydd, ‘Y Lle’, a fydd yn fan cyfarfod i holl aelodau’r gymuned Gymraeg. Byddwn yn cydweithio ar brosiect cenhadol dinesig sy’n cysylltu ag Eisteddfod Genedlaethol 2024.