Byth Bythoedd Amen

Gan Mared Jarman
Cyfarwyddo gan Rhian Blythe
Yn serennu Mared Jarman a Paul Davies

“Pan mae’r nos yn effro fel hyn, gall unrhyw beth ddigwydd…”

Pop glas, Jäger bombs a sgrolio Tinder.

Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.

Strydoedd yn llawn “livin’ for the weekend”…

Mae Lottie ar noson allan sy’n wahanol i bob noson allan gynt. Wrth i’r noson hwyrhau a Lottie’n ymgolli yn ei hatgofion, mae’r ffin rhwng realaeth a dychymyg yn chwalu ac mae’n cychwyn ar daith o faddeuant, hunan-ddarganfod a dawnsio fel bod neb yn edrych!

Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Bydd Mared – sy’n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg – hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.

Gyda chefnogaeth gan Craidd.

RHANNWCH