Cartref digidol diwylliant Cymru.

Bwncath – Tafwyl 2021

Cerddoriaeth

Ffurfiwyd yn 2014 yn ardal Caernarfon. Rhyddhawyd ein albwm gyntaf, Bwncath, yn haf 2017 a daeth yr albwm ddiweddaraf, Bwncath II, allan ym mis Mawrth 2020. Cafodd yr albwm gyntaf ei chynhyrchu gan Robin Llwyd – a fo ac Elidyr wnaeth recordio bron â bod popeth sydd arni.

Yn 2019, cafwyd ymateb gwych i’r ddwy sengl sef ‘Clywed Dy Lais’, a’r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, ‘gafodd ei pherfformio hefyd gan y band yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. Yn ogystal â hyn, rhyddhawyd fideo arbennig (wedi’i animeiddio gan Lleucu Non) i’r gân ‘Dos Yn Dy Flaen’ i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020, a chyrhaeddodd y dair cân y Clwb Can Mil o ffrydiau ar Spotify.

Recordiwyd yr albwm ‘II’ yn Stiwdio Sain ac mae’r 4 aelod yn gigio’n rheolaidd gyda’i gilydd ers dros flwyddyn. “Mae hi wedi bod yn braf iawn recordio’r albwm fel pedwarawd am y tro cyntaf. Mae’n sicr yn teimlo fel cyfanwaith rhwng y pedwar ohonom ni ac yn driw i’n perfformiadau byw.” Cynhyrchwyd ‘II’ gan Robin Llwyd a dylunwyd y gwaith celf gan Elidyr Glyn.

RHANNWCH