Brwydr y Bandiau: Tew Tew Tennau – Rho fo’n ôl

Cerddoriaeth

Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych a dywed Eban Elwy Williams, prif leisydd y band mae “Brwydr y bandiau oedd y nod ers i ni ddechrau, ‘da ni’n teimlo’n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl.” Maent yn gwrando ar lwyth o wahanol gerddoriaeth fel band, ond mae eu prif ddylanwadau yn dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae. 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni oedd Glyn Rhys-James (Mellt), Marged Siôn (Artist ac aelod o Self Esteem), Marged Gwenllian (Y Cledrau + Ciwb), a Siôn Land (Alffa).

 

Roedd y gystadleuaeth yn un anhygoel eleni, a’r beirniaid wedi cael tasg anodd iawn yn dewis y pedwar uchaf. Dywedodd Marged Gwenllian sy’n fasydd yn Y Cledrau a Ciwb, “Roedd safon eleni’n wych, a nifer fawr wedi ymgeisio, oedd yn gwneud pethau’n anodd i ni, ond roedd hi’n benbleth hyfryd i’w chael.”

 

Dywedodd Siôn Land drymiwr y band Alffa ddaeth yn gyntaf ym Mrwydr y Bandiau nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017, “Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn un o’r cystadlaethau pwysicaf yn yr Eisteddfod, yn enwedig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Mae’r gystadleuaeth yn galluogi i’r artistiaid i fynd i’r cam nesaf a chael mwy o ymwybyddiaeth ar draws Gymru a thu hwnt! Roedd y gystadleuaeth yn rhan hanfodol o daith Alffa a heb y gystadleuaeth fysa ni’m yn lle ‘da ni rŵan.”

 

Mae’r pedwar artist wedi recordio sesiynau yn stiwdio Sain ac mae’r perfformiadau i’w gweld draw ar YouTube Maes B.

 

Cynhelir rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher 9 Awst rhwng 15:30 a 17:50.

RHANNWCH