Mae hanes Branwen y Mabinogi yn un am gariad a brad, ac mae’n mynd â ni i fyd y cewri, byd brwydrau, byd teithiau lledrithiol ac anturiaethau.
Mae’r chwedl hynafol hon wedi ei hadrodd a’i hailadrodd ar hyd y canrifoedd. Mae ei gwreiddiau’n ddwfn yng ngorffennol pell y Celtiaid Cymreig ac mae wedi ysbrydoli sawl chwedl newydd.
Mae’r llyfr hwn yn gynrychiolaeth graffig o ail gangen y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr. Nod y llyfr yw cyflwyno plant a phobl ifanc i’r chwedl, ac i ail-ddweud y stori mewn ffordd weledol ac emosiynol i gynulleidfaoedd newydd gan ddefnyddio gwaith celf sy’n deillio o arteffactau hanesyddol go iawn.
• Testun dwyieithog
• Arlunwaith lliwgar, llachar a thrawiadol gyda chyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol