Cartref digidol diwylliant Cymru.

BOCS: Gofod Celfyddydau Ymdrochol a Realiti Estynedig | A Dedicated Immersive + Extended Reality Arts Venue

No Categories Found

Bydd gan brofiadau ymdrochol digidol gartref newydd yng nghanolfan celfyddydau cenedlaethol Cymru, wrth i Ganolfan Mileniwm Cymru gyhoeddi tymor llawn o gelfyddydau realiti ymestynnol mewn gofod arbennig

Archwiliwch eu rhaglen Profiadau Ymdrochol lawn a archebwch slot amser yma

Y gofod cyntaf o’r fath mewn canolfan celfyddydau yng Nghymru, bydd Bocs yn cyflwyno rhaglen o ffilmiau a thafluniadau 360° yn ogystal â phrofiadau realiti ymestynnol (XR) – gan gynnwys realiti estynedig, realiti cymysg a realiti rhithwir (VR).

Bydd Bocs yn agor ar 27 Awst gyda dychweliad Ripples of Kindness, cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru ac All Seeing Eye sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Yn cyd-fynd â’r ddrama lwyfan The Boy With Two Hearts, mae’r profiad VR cymydol yn adrodd stori’r teulu Amiri a fu’n ffoi o Affganistan i Gaerdydd.

Bydd tymor yr hydref cyntaf Bocs yn cynnwys Arwydd Drwy’r Awyr, y profiad realiti rhithwir 360° dwyieithog Cymraeg/Saesneg cyntaf erioed sy’n dilyn hanes y signalau di-wifr cyntaf a cafodd eu hanfon ar draws dŵr agored yn ne Cymru; LGBTQ+ VR Museum, amgueddfa realiti rhithwir cyntaf y byd ar gyfer hanesion personol pobl cwiar; a’r arobryn GOLIATH: Playing with Reality, sy’n ystyried sgitsoffrenia, gemau a chysylltiadau.

Yn cyd-fynd â’r rhaglen mae cyfres o drafodaethau a gweithdai a fydd yn cymryd lle mewn stiwdio XR newydd, gan roi cyfleoedd i artistiaid, addysgwyr a chrewyr ifanc ennill profiad ymarferol ac ystyried ffyrdd o greu argraff drwy’r cyfryngau ymdrochol.

Dywedodd David Massey, Uwch Gynhyrchydd (Profiadau Digidol), Canolfan Mileniwm Cymru:

“Mae profiadau ymdrochol yn ffordd wych o ddod â chynulleidfaoedd ynghyd, herio syniadau a’ch cludo i fydoedd newydd.

“Bydd Bocs yn arddangos a dathlu’r gorau o’r storïau ymdrochol hyn yng Nghymru a’r byd i gyd, gan groestorri technoleg, celfyddydau gweledol, theatr a cherddoriaeth.

“Gobeithiwn y bydd Bocs yn ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd a diddori’r cenhedlaeth nesaf o storïwyr, gan gyflwyno mwy o bobl i’r posibiliadau aruthrol sy’n dod o’r cyfrwng cyffrous hwn.”

RHANNWCH