Ddigwyddodd o fel bob dim arall da, ar ddamwain. Wedi iddyn nhw gael gwared o bawb doedd hi ddim yn licio dan esgus ailstrwythuro, ffeindies i’n hun yn gweini sothach seimllyd i’r criw oedd am dofi’r cwrw cyn mynd adra. Doedd ddim ots os o’n i’n neud smonach o’r archeb achos doedd rhan fwyaf ddim yn cofio be oedden nhw isio ac yn falch o gael rhywbeth. Roedd yna ambell un yn dadlau am eu bod nhw yn chwilio am sylw neu ffeit, ond doedd hynny’n fawr o broblem am fod bois seciwriti yno am yr un rheswm. Gadawais i ar ôl chwe wythnos am mod i wedi sylwi nad o’n i’n meindio’r oglau rhagor.
Ond mi nes i ffeindio mod i’n licio’r oriau. Dyna pryd benderfynais wario blwyddyn fel tylluan.
Doedd na ddim llawer yn medru sticio fel croupier felly ges i waith yn hawdd. Roedd yr oglau yn llai cras a’r meddwon yn wahanol fath, ond hwythau hefyd yn chwilio am rwbath i ddofi eu heneidiau cyn mynd adra. Roedd Maria yn cyfnewid eu henillion am ffafrau, tops off ecstra, hi gyflwynodd fi i’r lle yma. Caffi lle fydda’n ni’r tylluanod yn cyfarfod diwedd shifft i gydio ‘mlaen i’r nos ychydig hirach. Roedd Dan y printiwr yn fyddar oherwydd ei swydd ac yn drifftio allan o sgyrsiau, Terje mewn crys Hawaii am ei fod o yn methu’r haul, Eve oedd fyny drwy’r nos yn tendio hunllefau plant cartref gofal, a Ned oedd fel fi yn dylluan drwy ddewis.
Ma Ned a finne’n caru er mwyn pasio’r amser yn y dyddiau hir digwsg. Ambell waith yn neud digon fel bod ni’n dau yn gallu dwyn cwpl o oriau, ond byth digon i freuddwydio.
Da ni’n rhannu tips: fitamin d, plygs clustiau gorau, blacowt blinds, a’r cylchdro cywir tabledi cysgu fel bod nhw’n gweithio a ddim yn chwalu pen yn ormodol.
Mae pobol y nos yn oddefgar, fwy neu lai. Mae’r rhai sydd wedi arfer â hi’n fwy goddefgar, a’r rhai sydd ddim dipyn llai. Dwi wrth fy modd yn gwylio’r tadau newydd yn sbïo ar silffoedd siop am funudau llawn wrth iddyn nhw ddod i arfer â sut mae dy frên yn gweithio rhwng tri a phedwar yn y bore. Tra bo Ned yn ei chael hi bob siâp fel porthor nos gwesty sy’n cogio bod yn grand.
Ond mae Ned di bod yn siarad yn wirion am neud pethau fel dringo mynydd, mynd i’r parc neu lan y môr. Er mod i’n esbonio mod i’n hapus fel ydw i, mae o dal i gynnig. Falla fod o’n amser i ni ailstrwythuro.
Dwi ddim yn colli’r dydd. Mae’r pytiau bach dwi’n weld o’r haul dwi’n werthfawrogi, dipyn mwy nac o’n i. Ond gewch chi gadw’r gweddill.
Mae gwaelod y baned yn oer.
Dwi’n gwrthod cynnig Ned ac yn mynd am adre wrth i’r wawr a phethau eraill dorri. Mi wnâi barhau i drio chwilio breuddwydion tra boch chi’n mynd o gwmpas eich pethau. Nos da.