Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae Blearz yn trafod gwersi bywyd ar ei drac cyntaf ‘Changes’.
Wedi ei berfformiad byw cyntaf yn LARYNX LINKED, y mae gobeithion ac uchelgeisiau Blearz yn cael eu rapio drwy benillion y trac. Gan ddogfennu ei fethiannau, rydyn ni’n gweld rhywun ar drobwynt mewn bywyd sydd eisiau mwy nag y mae’n ei weld o’i flaen wrth iddo rapio “I weren’t brought up seeing money, I’ve been fiending a cheque”.
Mae’r bachyn yn cyfleu’r un teimlad wrth i’r artist fynegi ei awydd am newid a sut mae’n defnyddio cerddoriaeth fel modd i osgoi’r peryglon a allai fod yn disgwyl amdano fel arall.
Bydd ‘Changes’ gan Blearz yn cael ei ryddhau i lwyfannau ffrydio ar Hydref 28ain 2022 ar LARYNX LICENSED gyda fideo cerddorol wedi’i saethu gan Hamnett Fillms.