Cartref digidol diwylliant Cymru.

Black Valleys Project: Mapio Hanes Pobl Dduon Cymru

Llenyddiaeth

Dan arweiniad Myya Helm – ysgrifenwr ac ymgeisiwr PhD. Ymunwch â ni yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar Hydref 24 i gyfrannu at fapio hanes pobl ddu yng Nghymru a chael £20 am wneud!

 

Rydym yn creu adnoddau newydd ar gyfer ysgolion lleol, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, ar Hanes Pobl Dduon Cymru.

 

Ydych chi o dras Affricanaidd/Caribïaidd gyda chysylltiadau gyda’r Cymoedd? Buasem wrth ein bodd yn clywed eich stori!

 

Gyda’n gilydd, byddwn yn gallu cyflawni’r canlynol:

Archwilio bywydau pobl ddu yn y Cymoedd, o’r gorffennol a’r presennol

Rhannu eich treftadaeth bersonol drwy adrodd straeon yn greadigol

Helpu i lunio cynnwys addysgiadol ar gyfer ysgolion yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

 

Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn derbyn taleb £20

Does dim llawer o lefydd ar gael – cofrestrwch nawr!

https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=OzUH9VecA0q3whUrPs50xCFhNGiCcXFBgMoHZxkE3A9UME1MTzlVQzZLMEZZVzlRT1lHR1NMSkc3WS4u&route=shorturl

 

Mae’r digwyddiad wedi ei guradu gan Kumbukumbu, prosiect treftadaeth hanes pobl dduon yng Nghymru.

RHANNWCH