Cartref digidol diwylliant Cymru.

Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais ac Anastasia Magloire

Llenyddiaeth

Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais ac Anastasia Magloire yw Llyfr y Mis i Blant mis Tachwedd. 

Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais ac Anastasia Magloire yw Llyfr y Mis i Blant mis Tachwedd. 

Dyma hanes ysbrydoledig prifathrawes Ddu gyntaf Cymru, wnaeth frwydro dros degwch a chydraddoldeb. 

Cyhoeddir Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell fel rhan o gyfres Enwogion o Fri. Dyma gyfres sy’n cyflwyno bywydau ysbrydoledig unigolion o Gymru, o gantorion ac artistiaid I wyddonwyr ac arloeswyr. 

Yr awdur a Bardd Plant Cymru, Nia Morais, sy’n trafod y gyfrol. 

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH