Beth yw Braint Pobl Gwyn?
Dydy braint pobl gwyn ddim yn golygu nad yw dy fywyd di wedi bod yn anodd, ond mae’n golygu nad yw lliw dy groen wedi gwneud dy fywyd yn anoddach. Mae’n golygu pan rwyt ti’n mynd i siop, rwyt ti’n gweld bod y prif arddangosfeydd gwallt a chroen ar gyfer pobl sy’n edrych fel ti. Mae’n golygu dy fod di wedi dysgu bod hanes dy wlad yn hanes pobl sydd a’r un lliw croen a thi. Mae’n golygu dy fod yn gallu mynd trwy dy fywyd heb orfod ystyried a oedd cyd-destun hiliol i rywbeth gwael a ddigwyddodd i ti. Mae’n golygu nad oedd yn rhaid i ti ddysgu, fel plentyn am hiliaeth systematig er mwyn dy ddiogelwch.