Cartref digidol diwylliant Cymru.

Awydd ymuno â’n Bwrdd? | Interested in joining our Board?

Cerddoriaeth

MANYLION AELODAETH BWRDD

YNGLŶN PYST AC AM
Mae Pyst Cyf yn gwmni nid-er-elw cyfyngedig sy’n cynnal gwasanaeth dosbarthi a hyrwyddo cerddoriaeth PYST (www.pyst.cymru) ac AM, gwefan ac ap ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru (www.amam.cymru)

Dechreuodd oes PYST / AM yn 2018 fel cwmni dosbarthu a hyrwyddo digidol cerddoriaeth cyntaf Cymru. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, datblygodd PYST yn gyflym ac mae bellach yn cynrychioli cymuned o dros 75 o labeli ac mae wedi bod yn gyfrifol am gynnydd enfawr mewn ffrydio cerddoriaeth o Gymru: dros 30 miliwn ffrwd yn y ddwy flynedd gyntaf, yn cynyddu nid yn unig proffil cerddoriaeth Cymru ond hefyd incwm ar gyfer labeli ac artistiaid Cymru.

Arweiniodd dealltwriaeth o arferion digidol defnyddwyr cerddoriaeth yng Nghymru at sefydlu AM ym mis Mawrth 2020 (tair wythnos cyn Covid!): platfform digidol cyntaf Cymru ar ffurf ap a gwefan – ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru. Wedi’i seilio ar yr un ethos â chydweithredu a chymuned, nodau cyntaf AM oedd hyrwyddo cynnwys digidol y sector Celfyddydau yng Nghymru a magu cynulleidfa ddigidol fyd-eang ar gyfer celfyddydau Cymru. Ddeunaw mis yn ddiweddarach, mae AM yn gartref i dros 300 o artistiaid/ sefydliadau creadigol, wedi gweld dros 5500 darn o gynnwys wedi’i lanlwytho ar y safle a gyda 200,000 o ddefnyddwyr unigryw yn y cyfnod hwnnw.

Mae PYST / AM wedi tyfu ers 2018 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru: yn y lle cyntaf fel cyllid ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a Cymru Greadigol ac yn fwy diweddar drwy Cymru Greadigol yn unig gyda Chyllid Adferiad Diwylliannol diweddar. O ganlyniad i gyllid Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni bellach yn cyflogi pum aelod o staff yn llawn amser, gan gynnwys Alun Llwyd (Prif Weithredwr), Kevin Tame (Prif Swyddog Gweithredol) a gweithwyr llawrydd rheolaidd ar brosiectau penodol.

EGWYDDORION A STRATEGAETH
Mae’r profiadau a’r syniadau a gafwyd gydol y ddwy flynedd gyntaf wedi llywio ein strategaeth ar gyfer twf dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r strategaeth newydd hon yn ehangu ein gweithgareddau, dwysau ein heffaith, cryfhau ein partneriaethau ac yn rhoi damcaniaeth dros newid ar waith yn seiliedig ar effaith cyfuno pwerau strwythurau diwylliannol a chymdeithasol cenedlaethol presennol yn ddatblygiad cymunedol hirdymor strategol er budd i bawb.

Mae wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  1. Creu tirwedd hygyrch a chefnogol newydd ar gyfer creawdwyr a sefydliadau celf yng Nghymru yn seiliedig ar gydweithredu a democratiaeth

  2. Rhoi cynhwysiant, dwyieithrwydd a’r amgylchedd fel tri philer y dirwedd honno

  3. Meithrin cynulleidfa ddigidol newydd yn genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru – gan gynyddu proffil ac ymgysylltu drwy ddulliau gwyrdd a hygyrch.

  4. Cynyddu hygyrchedd, llwybrau a chyfranogiad yn y Celfyddydau: ar gyfer creawdwyr, sefydliadau a chymunedau.

  5. Rhoi dull newydd ar waith lle mae grymuso’r gymuned yn ysbrydoli creu ac ymgysylltu lleol gan sicrhau ei fod yn parhau yn ganolog o ran creu a chyfranogi yng Nghymru yn y dyfodol.

  6. Meithrin y genhedlaeth gynhwysol newydd o arweinwyr cymunedol a chenedlaethol yn y dyfodol drwy raglenni wedi’u teilwra, prentisiaethau a pholisi cyflogaeth.

Mae’r strategaeth newydd yn gweithio ar draws pum cyfnod cynffonnol ond ar wahân, gyda phob un yn arwain at ddatblygiad y cyfnod nesaf. Mae Cyfnodau 1 (PYST) a 2 (AM) eisoes yn gwthio’r ffiniau ar ôl cael eu datblygu am dair a dwy fly7nedd. Mae’n ddyddiau cynnar ar Gyfnod 3 (Gwasanaethau), ond mae galw mawr amdano yn barod. Mae bellach yn amser meddwl am y dulliau newydd sef grymuso’r gymuned a amlinellir yng Nghyfnod 4 (Mentrau Llawr Gwlad) a 5 (Gofodau) – sy’n hynod berthnasol yng nghyd-destun adferiad Covid-19 a datganiadau newydd Llywodraeth Cymru.

  1. PYST

  2. AM
  3. Gwasanaethau
  4. Mentrau Llawr Gwlad
  5. Gofodau

STRATEGAETH A CHAMAU NEWYDD
1. PYST
Mae PYST yn canolbwyntio ar ddosbarthu a hyrwyddo digidol cerddoriaeth Cymru mewn unrhyw iaith ac unrhyw genre.

Ar hyn o bryd mae PYST yn dosbarthu i gymuned o dros 75 label o Gymru ac mae wedi gweld cerddoriaeth o Gymru yn cael ei ffrydio dros dri deg miliwn o weithiau yn y ddwy flynedd ers bodolaeth PYST, gan gynyddu incymau ar gyfer labeli (ac artistiaid drwy hynny) a chosi proffil byd-eang cerddoriaeth Cymru.

Camau gweithredu

  • Datblygu catalog ac archif digidol o gerddoriaeth Cymru ar gyfer ei ddosbarthu er mwyn cynyddu incwm i labeli Cymru tra’n cadw a manteisio ar Eiddo Deallusol ddoe a heddiw.
  • Hyrwyddo drwy ddefnyddio dulliau arloesol i gynyddu proffil a defnydd masnachol cerddoriaeth Cymru yng Nghymru a thu hwnt.
  • Siop un stop i hwyluso a rhwyddhau’r broses o ryddhau cerddoriaeth a chynyddu nifer yr artistiaid a labeli gweithgar yng Nghymru drwy hynny.
  • Croesawu partneriaethau i ddatblygu seilwaith parhaol ar gyfer datblygu artistiaid a cherddoriaeth Cymru yn gyffredinol yn y dyfodol.
  • Datblygu adnoddau cydweithredu a strwythur i gynrychioli holl labeli Cymru er mwyn galluogi’r labeli dyfu a chael eu cydnabod.
  • Cynnal prosiectau penodol i ddatblygu’r seilwaith sy’n ofynnol i ehangu marchnad a chynulleidfa cerddoriaeth Gymraeg. Er enghraifft, maer gennym brosiect peilot newydd gyda Mentrau Iaith Cymru sy’n annog/ mentora hyrwyddwyr cerddoriaeth newydd a blogiwyr cerddoriaeth newydd ar lefel gymunedol.

2. AM
Gwefan ac ap sy’n hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymau a lansiwyd ym mis Mawrth 2020 – yn agos iawn at ddechrau’r pandemig.
Mae AM wedi gweld twf enfawr mewn cyfnod byr ac ar hyn o bryd mae ganddo dros 300 o wahanol sianeli o bob ffurf ar y Celfyddydau yng Nghymru – o sefydliadau cenedlaethol fel Cyngor Llyfrau Cymru i artistiaid gweledol unigol, dros 200,000 o ddefnyddwyr unigryw a dros 5500 darn i gynnwys wedi’i lanlwytho.

Camau gweithredu

  • Meithrin cynulleidfaoedd ar-lein newydd, defnyddwyr a marchnadoedd ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru.
  • Datblygu model i gynnig cyngor a chymorth marchnata digidol i greawdwyr celfyddydau digidol yng Nghymru.
  • Datblygu’r cysyniad o gymuned Celfyddydau gwyrdd cynaliadwy yn defnyddio platfform digidol wedi’i rannu i greu cyfoeth a chynulleidfa: model y gellir ei drwyddedu yn rhyngwladol neu / ac i feysydd diddordeb eraill.
  • Gwell hygyrchedd i Gelfyddydau digidol ar gyfer creawdwyr a chynulleidfa. Creu cynnwys hygyrch i adlewyrchu a hyrwyddo celfyddydau Cymru yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
  • Cynyddu’r cynnwys cynhwysol ar AM er mwyn sicrhau bod y gymuned gelfyddydau yn cael ei hadlewyrchu’n llwyr ac ar gael i bawb.
  • Datblygu AM yn blatfform digidol deinamig ar gyfer mentrau cymunedol, e.e. tafarndai dan berchnogaeth y gymuned, mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol cymunedol.
  • Prosiectau partneriaeth i gynyddu cynulleidfaoedd a gwella mynediad at wybodaeth am y Celfyddydau yng Nghymru.

3. GWASANAETHAU
Gwasanaeth marchnata a chysylltiadau cyhoeddus (traddodiadol a digidol) ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru.

Camau gweithredu

  • Datblygu gwasanaethau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus pwrpasol sy’n ymroi i hyrwyddo’r Celfyddydau yng Nghymru sy’n gallu gyda chyllidebau amrywiol.
  • Sefydlu sylfaen gleientiaid eang ac amrywiol o ran genre, natur, daearyddiaeth a’r math o wasanaethau sy’n gweithio i ni.
  • Creu llwybr datblygu sgiliau sy’n defnyddio staff, gweithwyr llawrydd a phrofiad gwaith/ prentisiaethau. 

4. MENTRAU LLAWR GWLAD
Hyrwyddo digwyddiadau a mentrau Celfyddydau cymunedol ffisegol a digidol, yn canolbwyntio ar rymuso’r gymuned, hygyrchedd, cyfranogiad ieuenctid a mentora/ hyfforddiant. Annog twf organig gweithgareddau Celfyddydau yn y gymuned a fydd yn creu’r sylfeini ar gyfer twf mewn celfyddydau cenedlaethol a chreu ac ymgysylltu cymdeithasol.

Camau gweithredu

  • Gigs AM i annog mwy o gerddoriaeth fyw ar lefel gymunedol ynghyd â rhaglenni mentora i annog arweinwyr, hyrwyddwyr, blogiwyr/ysgrifenwyr a chyflogaeth newydd. Byd hyn hefyd yn arwain at gerddoriaeth fyw yn dychwelyd i sawl rhan i Gymru.
  • Pwyslais ar greu o fewn y gymuned i feithrin Celfyddydau cymunedol a chyfleoedd lleol i rymuso creawdwyr newydd/ ifanc.
  • Datblygu nifer o ddigwyddiadau Celfyddydau byw ym mhob rhan o Gymru gyda phwyslais ar ardaloedd difreintiedig lle na chynhelir digwyddiadau Celfyddydau fel arfer a digwyddiadau Cymraeg.
  • Pontio’r rhaniad rhwng y sector Celfyddydau ‘cenedlaethol’ a chymunedau ledled Cymru drwy gynnal digwyddiadau AM mewn partneriaeth â sianeli AM penodol gan annog partneriaethau gwaith ychwanegol.

5. GOFODAU
Rydym yn anelu at ddatblygu/ agor Gofodau a fydd yn swyddfeydd lleol ar gyfer PYST, AM, Gwasanaethau a Mentrau Llawr Gwlad, ond hefyd yn gallu cael eu defnyddio fel lleoliadau bach ar gyfer gweithgareddau Celfyddydau a chreu cynnwys digidol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu doniau a sgiliau ar lefel gymunedol. Gallai gofodau fod yn ddwyieithog neu’n Gymraeg yn unig. Yn dibynnu ar y gofod y gallwn ei ddarparu, byddent hefyd yn gallu cartrefu rhai o sefydliadau partner AM/ PYST a phartneriaid perthnasol eraill i’r weledigaeth, gan greu model newydd ar gyfer gofodau celfyddydau cymunedol: adeiladau gartrefu galw newydd am gydweithredu pwysig yn ddigidol ac yn ffisegol. Hefyd yn ddibynnol ar ofod, gallai’r Canolfannau hyn gartrefu hybiau gweithio o bell lleol neu hybiau Diwydiannau Creadigol yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.

Camau gweithredu

  • Gwella effeithlonrwydd, gwaith hyrwyddo a chyrhaeddiad AM, PYST a Gwasanaethau ar lefel leol.
  • Sbarduno gweithgareddau Celfyddydau mewn ardaloedd difreintiedig lle, am resymau amrywiol, mae creu a chymryd rhan yn y Celfyddydau wedi dirywiol
  • Creu partneriaethau pwrpasol ar lefel leol i hyrwyddo datblygiad diwylliannol ac economaidd. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu’r defnydd o gyfleusterau lleol, cynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan a chynyddu gwariant lleol yn yr economi yn gyson â nodau Egwyddor Canol Trefi yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. Yn unol â’n nodau amgylcheddol, byddem yn ceisio defnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes ac sy’n wag.
  • Datganoli’r Celfyddydau drwy broses o ddemocratiaeth ddiwylliannol gan greu mynediad cymunedol uniongyrchol i ni a’n holl bartneriaid.

Mae’r strategaeth yn gyson â llawer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ynghyd â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Amcanion Llesiant, Cymraeg 2050 a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru. Mae AM yn cael ei enwi hefyd fel sefydliad allweddol yn Nogfen Polisi Cydweithredu Llafur-Plaid Cymru.

BWRDD
O ganlyniad i’r strategaeth newydd hon, rydym yn gobeithio ehangu ein Bwrdd drwy chwilio am aelodau newydd sydd â’r sgiliau, profiad neu/ a diddordebau penodol yn y meysydd canlynol:

Marchnata Digidol
Datblygu Masnachol
Addysg
Rhwydweithiau Cymunedol
Llenyddiaeth
Cyfreithiol
Theatr a Pherfformio
Codi arian
Cerddoriaeth
Partneriaethau

Mae gan PYST ac AM werthoedd a nodau craidd sy’n adlewyrchu Cymru gynhwysol drwy ein ffyrdd o lywodraethu, cynnwys, gweithredoedd a phartneriaethau. I roi’r nodau hy ar waith ymhellach rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig o sectorau o’r gymuned sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol yn hanesyddol ar lefel Bwrdd yn y sectorau creadigol a chelfyddydau: yn benodol pobl gyda nodweddion gwarchodedig, yn arbennig menywod, pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, y rhai sy’n adnabod eu hunain yn draws ac anneuaidd a phobl ag anableddau.

Rydym hefyd yn bwriadu cynnig profiadau newydd ac yn croesawu ceisiadau gan bobl ifanc heb brofiad Bwrdd blaenorol. Byddwn yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth lawn mewn sefyllfaoedd fel hyn.

PRIF GYFRIFOLDEBAU
Cyfrannu at strategaeth a phenderfyniadau polisu, gan osod nodau a thargedau a gwerthuso llwyddiant cyffredinol PYST ac AM yng nghyd-destun y strategaethau sydd wedi’u crybwyll.
Cenhadodd PYST ac AM, gan chwilio am bartneriaethau a chyfleoedd newydd i wella ein heffeithlonrwydd a’n dylanwad ymhellach.
Monitro sefyllfa ariannol a gweithrediad Llywodraethu yn unol ag Erthyglau’r cwmni.
Monitro a chefnogi’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog Gweithredol.
Cynnal cyfrinachedd ar bob mater a drafodir ar lefel Bwrdd neu sydd wedi’u cynnwys ar bapurau’r Bwrdd.

SGILIAU GOFYNNOL
Cynhelir cyfarfodydd yn y Gymraeg er ein bod yn agored i ddarparu gwasanaethau cyfieithu os yw hynny’n ofynnol dan amgylchiadau penodol.
Diddordeb mewn creadigrwydd a gwneud gwahaniaeth.
Ond yn bennaf rydym yn chwilio am angerdd, egni a ffydd yn y gwaith rydym yn ei wneud a photensial diddiwedd y gwaith hwnnw.

YMRWYMIAD AMSER
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob deufis – ar Zoom ar hyn o bryd.
Nid oes tâl ond byddwn yn talu unrhyw gostau rhesymol tra’n cyflawni dyletswyddau neu waith y Bwrdd.
Er hynny, rydym yn cynnig ffi o £150 i aelodau’r Bwrdd sy’n weithwyr llawrydd am bob cyfarfod Bwrdd.
Byddwn hefyd yn cynnig sesiwn gyda’n cyfreithiwr i dywys aelodau newydd y Bwrdd drwy gyfrifoldebau a goblygiadau’r swydd.
Os ydych chi am gael sgwrs bellach yn cyflwyno cais neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch Alun, Prif Weithredwr PYST CYF yn alun@pyst.net

SUT MAE GWNEUD CAIS?
Anfonwch lythyr yn egluro pam eich bod yn gwneud cais a’r hyn y gallwch chi ei gynnig i’r Bwrdd. Rhowch wybod i ni cymaint â phosibl am eich hun a’ch diddordebau – gall hyn fod ar ffurf CV amgaeedig ar wahân os mai dyna’ch dymuniad.

E-bostiwch eich ceisiadau at alun@pyst.net erbyn, 21 Mawrth am 6pm.

RHANNWCH