Mwynhewch ffilm arbennig yn dogfennu rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru gyfoes!
Aeth Culture Colony ar daith dros Gymru i gyfweld artistiaid a gyflwynodd waith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, yn cynnwys Llŷr Evans, Ruth Jên Evans a John Rowley.
Dyma gyfle i glywed mwy am eu prosesau creadigol ac i ail-ymweld a’u celf.