Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mae Dr Sara Louise Wheeler yn fardd, llenor ac yn artist llawrydd. Mae hi’n ysgrifennu’r golofn ‘O’r Gororau’ i gylchgrawn Barddas, gan archwilio pynciau sy’n ymwneud â phrofiadau ffiniol, gan gynnwys anableddau; mae hi hefyd yn ysgrifennu colofn ddeufisol i Golwg360. Mae Sara yn gwneud gwaith ymgynghorol ar hygyrchedd ac mae’n aelod o nifer o bwyllgorau a rhwydweithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth; mae hi hefyd yn Is-Gadeirydd y pwyllgor Llên canolog ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn aelod o bwyllgor gwaith PEN Cymru, a hefyd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd. Mae Sara yn gweithio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r cyffiniau, gan ddarparu gweithdai sy’n ymwneud â chreadigedd a llesiant. Enillodd Sara gystadleuaeth ‘Geiriau Creadigol’ (cyfrwng Cymraeg) DAC 2022 gyda’i cherdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’; mae hi eisoes wedi ei chyfieithu a’i cyhoeddi yn ei phamffled dwyieithog o farddoniaeth ‘Trawiad/ Seizure’. Mae ei gwaith celf ‘Tywod amser y clyw’ i’w weld yn arddangosfa Gwobr Celfyddydau DAC ‘Aildanio’ ac ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb, Wrecsam. Mae Sara ar hyn o bryd yn paratoi llyfr i blant o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’, yn seiliedig ar stori a gwaith celf a gyhoeddodd yn ddiweddar yn ‘Cylchgrawn CIP’; bydd hi’n gyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg, gyda gwaith celf gwreiddiol.

Socials: @serensiwenna (Twitter ag Instagram) Saralouisewheelerneeedwards ar Facebook.

Ewch i weld mwy o gelf gan Sara yma

yma

RHANNWCH