Mae’n bwysig i Caitlin fod ei phaentiadau nid yn unig yn cael eu gweld fel endid gweledol yn unig, ond hefyd fel cyfle i ymbwyllo. Nod y gwaith yw caniatáu i’r gwyliwr a’r artist synfyfyrio ar y gorffennol fel y byddai rhywun yn ei wneud wrth hel atgofion i sŵn cân hiraethus, lle mae atgof sy’n gwan i ddechrau yn dod yn atgof disglair. O gariad a cholled i alar a dicter, ac o’r graffig i’r paentiad mae’r gwrthgyferbyniadau sy’n gynhenid yn y gweithiau’n arwain at beintiadau hynod fynegiannol.
Yn ddiweddar cyrhaeddodd Caitlin y Rhestr Fer ar gyfer Forbes 30 Dan 30 Ewrop ac mae ar fin arddangos yn Sothebys ar gyfer Arwerthiant Elusennol Fair Shot “Art + Neurodiversity” gyda SOTA Marketplace. Ar hyn o bryd mae Caitlin yn gweithio ar ei phrosiect Cyngor Celfyddydau Cymru ‘Going Away in Order to Return’ a fydd yn arddangosfa deithiol yng Nghymru. Mae’n cychwyn yn Haverhub yn Hwlffordd ac wedyn yn teithio i “Art in the Attic” yn The Factory yn Borth ac yn gorffen yng Nghaerdydd yn Cardiff Umbrella. Mae’r corff newydd hwn o waith yn adlewyrchu awydd yr artist i ddangos gwaith yn y cymunedau y cafodd ei magu ynddynt, ar ôl symud oddi cartref ac ar ôl byw a gweithio mewn dinasoedd mawr, mae hi’n credu’n angerddol bod angen i bobl sy’n chwilfrydig am gelf brofi celf yn lleol mewn cyd-destunau hygyrch.
Meddai Caitlin:
“Rwy’n credu os oes gennych angerdd ewch amdani. Rwy’n dod o deulu dosbarth gweithiol ac roeddwn i’n meddwl na fyddwn i byth lle rydw i heddiw. Dywedodd athrawon wrthyf na fyddwn byth yn llwyddo â dim byd. Angerdd a chymhelliad yw’r cyfan sydd ei angen arnoch.”
Am fwy o wybodaeth am Caitlin a newyddion am y Prosiect “Going Away in Order to Return” edrychwch ar wefan Caitlin neu ei Instagram.
“Lonely Star”, Olew a Chyfryngau Cymysg ar Gynfas, 60 x 70cm, 2023
“Ambush”, Olew, Collage a Chyfryngau Cymysg ar Gynfas, 120 x 120cm, 2023
“Y Ci Du” Olew a Chyfryngau Cymysg ar Bapur, 52 x 65cm (Wedi’i Fframio), 2023