Cartref digidol diwylliant Cymru.

Treuliodd y cyfansoddwr a’r artist sain amgylcheddol â nam ar y clyw, Cheryl Beer, y blwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda choedwigoedd glaw hynafol Cymru, yn cyfansoddi cerddoriaeth seiliedig ar y systemau fasgwlaidd yn y pedwar clofan bregus sy’n weddill. Mae ei gwaith yn uno tiroedd Celtaidd hynafol a oedd gynt wedi’u cysylltu dan y pridd drwy edafedd mân, pluog o fwng myceliwm, fel un goedwig law odidog.

Trwy ailbwrpasu teclynnau clyw ac ofer biomeddygol sensitif, mae Cheryl wedi coladu’r biorhythmau a grëwyd ganddargludedd yn nyfnderoedd coed, rhedyn a mwsogl, a defnyddio’r darlleniadau hyn i gyfansoddi Symfoni Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED. Mae’n datguddio sgyrsiau â natur nas clywid o’r blaen, ac mae pob nodyn yn dod o’r coed hynafol, rhedyn a mwsogl eu hun. Trwy gytuno’r celfyddydau a thechnoleg arloesol, mae fordd unigryw Cheryl o gyfansoddi cerddoriaeth yn codi ymwybyddiaeth o’r ecosystem hon sydd o bwys byd-eang.

Mae gan Cheryl sawl digwyddiad ar y gweill dros y misoedd nesaf. Darllen mwy am CÂN Y COED yma.

Blog Cheryl

Facebook Cheryl

RHANNWCH