“Yn 2018 ysgrifennais Earwitness – casgliad o draethodau am golli clyw, tinitws a synau ysgrifenedig.
Arweiniodd hyn at PhD rwyf newydd ei orffen, yn ymchwilio i brofiad sonig mewn ffuglen gyfoes. Fel prosiect bach parhaus ar yr ochr, rydw i wedi bod yn meddwl tybed beth yw’r berthynas rhwng clefyd awtoimiwnedd a sain.
Mae arthritis rhiwmatoid yn golygu fy mod yn clywed rhai synau nad yw pobl eraill yn eu clywed, fel sŵn clic pigiad y chwistrellwr a’r twrw clonc wrth ei daflu i’r bin. Y synau hyn yw hadau’r prosiect Offerynnau Taro Fferyllol, sy’n ddathliad sonig o feddyginiaeth anorganig, mas-gynhyrchiol.
Cafodd yr albwm cyntaf ei recordio yng Nghapel y Graig, fel deuawd rhwng metronom allan o drefn a minnau yn defnyddio byrddau ac estyll fel offerynnau taro yn y gofod atseiniol enfawr hwn. Mae hefyd yn rhyw fath o gyfaill od i erthygl a ysgrifennais a oedd yn ceisio diffinio cysyniad cysgod clywadwy’r pulpud.
Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y bydd Offerynnau Taro Fferyllol yn tyfu’n rhywbeth cydweithredol o bryd i’w gilydd, lle bydd pobl yn dod at ei gilydd i ysgwyd eu tabledi mewn gwrthwynebiad chwareus i’r ideolegau iechyd fferyllol sy’n boblogaidd ar hyn o bryd.”