Cartref digidol diwylliant Cymru.

“Siwrne i ddeall y byd a fy lle inna ynddo ydyw fy ngwaith celf – a thrwy amryw gyfryngau yn ceisio holi cwestiynnau am beth yw perthyn a chysidro hefyd sut mae’r rhai a’r llefydd ar y cyrion yn ffitio i’r jig-so mawr. Hyn i gyd yn sgil cael fy ngwneud yn redyndant a sut ydwyf inna, fel Cymraes canol oed ac anabl, yn ceisio dod i delerau hefo hynny. Sut all rhai drysau gau ond y gall eraill hefyd agor yn y ffyrdd rhyfeddaf ac annisgwyl. Storïwraig yn y bôn sy’n ceisio ffeindio ei llais. A hyn drwy dyrchu i haenau a hanes. Hel casgliadau o bethau, er mwyn ceisio dod i gasgliadau.”

Artist amlgyfrwng yw Catrin Gwilym o ardal Porthmadog, a hyn di dod yn sgil cael ei gwneud yn ddi-waith yn ganol oed. Astudiodd gelf drwy gyrsiau rhan amser Prifysgol Bangor yn y gymuned. Dyma ei harddangosfa unigol cyntaf mewn sefydliad blaenllaw yng Nghymru.

“Cofnod o gyfnodau dros y ddegawd ddiwethaf yw’r jyrnal hwn; cyfnodau o geisio ffeindio ffyrdd newydd i ddelio â phrofedigaethau. Ystyriaeth sydd yma o leoliadau, dadleoliadau ac ar adegau adleoliadau: o gyfleoedd, ail-gyfleoedd a diffyg cyfleoedd a’u potensial i newid bywydau.

Dathliad ydyw o lefydd ar y cyrion – a hynny drwy grwydro, darganfod a myfyrio mewn pum lle arbennig – am yr hynod yn y di-nod, yr anghyffredin yn y cyffredin, a’r anghyfarwydd yn y cyfarwydd. Ond y mae yma hefyd alarnad am ddiwedd cyfnodau, am drysorau a daflwyd ac am bethau’n darfod, boed hynny drwy ddiffyg buddsoddiad neu ddifaterwch.

Y Bocs Gwyn yn Pontio oedd lleoliad olaf yn y jig-so o ran arddangos gwaith y Jyrnal ond oherwydd y pandemig fe gafodd y sioe – a oedd i gynnwys nifer o artistiaid eraill – ei chanslo ym Mai 2020. Drwy ailymweld yn ddiweddar â’r gofod yng nghwmni’r ffilmwraig Juliette Daum, ce’s gyfle i geisio prosesu yr hyn a fu, yr hyn a gollwyd a’r hyn a ddaw i’n rhan drwy gyfleoedd newydd. A hyn i gyd drwy gasgliadau a cheisio dod i gasgliadau.”

Gellir gweld rhagor o fanylion yr arddangosfa ‘Y Mae Stafell’ fan hyn

RHANNWCH