Blwyddyn newydd dda i bawb o dîm DAC! I ddechrau’r flwyddyn rydym wrth ein bodd i ailddechrau Artist y Mis, lle rydym yn rhoi sylw i waith bendigedig un o’n haelodau.
Artist y mis ar gyfer mis Ionawr bydd yr actor a’r cerddor Chris Tally Evans.
‘Mae fy albwm, Cooking Blind, bellach yn ffrydio ar Spotify, Apple Music, YouTube a thua 147 o lwyfannau eraill nad ydw i erioed wedi clywed amdanyn nhw. Mae’r albwm yn ymdrin â materion anabledd, iechyd meddwl, colled a chariad. Prosiect recordio gyda Clovis Phillips, aml-offerynnwr hynod dalentog gyda stiwdio ychydig i fyny’r ffordd oddi wrthyf yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru. Mae pob cân ar yr albwm, Cooking Blind, wedi eu sgwennu gen i, dros ryw ddeugain mlynedd o greu.’
Os da chi’n aelod o DAC ac eisiau cymryd rhan yn Artist y Mis cysylltwch gyda’ch Swyddog Celf. Gallwch ffeindio gwybodaeth am sut i ymaelodi yma.