Yng ngeiriau Eileen:
“Artist o Co. Down, Gogledd Iwerddon ydw i yn wreiddiol, bellach yn byw a gweithio yng Ngogledd Cymru. Rwy’n mwynhau’r rhythmau o bwytho yn arbennig, a hefyd yn ysgrifennu barddoniaeth a cherddoriaeth. Mae gen i ddiddordeb mewn datblygu perthynas symbiotig rhwng pwyth, sain, a gair. Yn gynharach eleni, cynhaliais arddangosfa PhD ‘A Sorrowful Healing’ yn Yr Oriel, Ysgol Celf, Prifysgol Aberystwyth, ac rydw i nawr yn gweithio ar y traethawd bydd yn cwblhau fy noethuriaeth. Ar ôl hyn, rwy’n edrych ymlaen at arddangos fy ngwaith tecstilau a gosodiadau celf unwaith eto yng Nghymru a thu hwnt.”
Ewch i wefan Eileen
Darganfod mwy am brosiect Eileen: Remembering the Troubles in Stitch, Sound & Word