Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cerddoriaeth

Artist y Mis Hydref DAC yw Blank Face!

Cynfas cerddorol yw Blank Face, sy’n cymysgu elfenau amryw fel Canwr/Cyfansoddwr Cerddoriaeth Acwstig, Hip Hop, Rnb, Soul ac Afro.

Mae’n credu yn y syniad o greu naws ac nid genre, ac er ei fod yn ganwr yn bennaf mae’n artist ddi-genre a hyd yn hyn nid oes dwy gân o’r un genre ganddo. Mae’n arbennig o adnabyddus am ei delynegiaeth gyflym a’i allu i rydd-steilio ac yn galw ei hun yn “One Take God”.

Wedi’i eni a’i fagu yn Nigeria, dywed Blank Face ei fod yn cael ei ddylanwadu gan yr arwyr Afro o’i amgylch fel Fela Kuti ac wedyn ei ddylanwadu gan artistiaid modern fel Tay Iwar, Miguel, Masego, Anderson Paak, Logic a llawer mwy. Mae’r cyferbyniad enfawr yn ei ddylanwad artistig ochr yn ochr â’i chwaeth amrywiol wedi caniatáu iddo greu synau unigryw sy’n ei gynrychioli fel Blank Face go iawn.

Mae Blank Face yn codi arian i ariannu prosiect NFT sy’n ddrud iawn a hoffai help o’i gynulleidfa, teulu a ffrindiau i weithredu hyn!

RHANNWCH