Enlli Artist Preswyl: Mai 11 – 25 2024
Artist amlddisgyblaethol yw Gwenllian Spink, â’i gwaith wedi’i wreiddio yn nhirweddau diwylliannol Cymru. Yn gerfluniol yn bennaf, arweiniwyd ei gwaith gan ddeunyddiau. Yn fwyaf diweddar, roedd yn rhan o gronfa Llais y Lle wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i ymchwilio a datblygu’r defnydd creadigol o’r Gymraeg o fewn cymunedau Dyffryn Nantlle (2023-24).