Gwefan ac App i’r celfyddydau yng Nghymru yw AM – www.amam.cymru. Fel rhan o’n hymroddiad i gynyddu cynulleidfa a hygyrchedd i’r Celfyddydau yng Nghymru, rydym yn cynnal arolwg ymysg cwmniau a sefydliadau sydd yn creu gwaith theatrig neu berfformio i ddarganfod mwy am y sefyllfa bresennol a pha rwystrau sy’n parhau i atal gwella hygyrchedd. Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi â’i rannu gyda’r sector yn cynnwys ymchwil bellach, datrysiadau a rhai o gasgliadau’r arolwg a gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn gymorth ac yn gam positif i bawb. Os yw’r arolwg yn berthnasol i’ch gwaith, gofynnwn yn garedig am ddeg munud o’ch amser i’w gwbwlhau – Arolwg YMA