Nofel hanesyddol sy’n stori garu, ac yn llawer mwy. Wedi ei gosod yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, mae’n dilyn hynt Sian cantores ifanc o gymuned glos y Rhondda a’i pherthynas a George, ddaw o deulu dosbarth canol cefnog yn Llundain.
Drwy ddilyn hynt a helynt y cariadon annisgwyl gwelwn newid byd: bomio Cwm-parc, aberth y Frigâd Ryngwladol a bywyd ffatrïoedd enfawr Pen-y-bont. Clywn dinc y Wenhwyseg ar wefusau ‘arwyr dewr erwau’r glo’ a chawn gipolwg tu ôl i lenni ambell glwb nos tywyll yn Llundain.
Sarah-Louise fu’n rhoi blas o’r nofel yn y lansiad gynhaliwyd yn Yr Hen Lyfrgell, Y Porth, fis Mai.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.