Cartref digidol diwylliant Cymru.

Anwyddoldeb – Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

Llenyddiaeth

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth Elinor Wyn Reynolds yw Anwyddoldeb (gair gwneud gan y bardd!). Yn y gyfrol hon, amlygir yn bennaf ei dawn i ddarlunio emosiwn mewn geiriau yn ei hysgrifennu creadigol, a hwnnw’n ysgrifennu cynnil ac awgrymog. Ond yn ogystal ag ysgrifennu dwys, mae ganddi’r ddawn unigryw hefyd i gyflwyno cerddi byrlymus, llawn egni a hiwmor. O’r herwydd, mae’r gyfrol hon yn gasgliad amlwg o’r ddau – y dwys a’r digri. Mae nifer o’i cherddi’n seiliedig ar brofiadau personol, cymeriadau a chymdeithas a heriau’r byd mawr o’n cwmpas.

Cerddi rhydd yw’r casgliad – rhai ohonynt yn gerddi byr ac eraill yn gerddi hirach, neu’n gadwyn o gerddi.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Elinor ac i weld mwy o’i gwaith

RHANNWCH