Cartref digidol diwylliant Cymru.

Anthem
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru
20 Gorffennaf – 30 Gorffennaf 2022

Ysgrifennwyd gan Llinos Mai a chyfansoddwyd gan Llinos Mai a Dan Lawrence

Pedwar rhanbarth. Pedair cân. Un wobr. Â gwlad y gân yn gwylio o’u soffas, pwy ddaw i’r brig? Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu fwya’r genedl.

Wrth i’r cystadleuwyr o bob cwr o Gymru baratoi i frwydro i gipio’r teitl, mae’r ddrama a’r doniolwch yn datblygu – ar yr awyr a thu ôl i’r llen. Ydyn nhw ishe’r enwogrwydd? I gael eu derbyn? Neu dim ond tlws arall i roi ar ddreser Mam?

Dyma gomedi gerddorol Gymraeg newydd a fydd yn codi gwên ymhell ar ôl canu’r nodyn olaf.

Dod o hyd i docynnau

RHANNWCH