Pedwar rhanbarth. Pedair cân. Un wobr.
Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu (ffuglenol!) fwya’r genedl. Bydd peiriannau gwynt. Bydd newidiadau cywair. Bydd dadlau di-ri ar Twitter.
Dyma gomedi gerddorol Gymraeg newydd a fydd yn codi gwên ymhell ar ôl canu’r nodyn olaf.
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru
Ysgrifennwyd gan Llinos Mai a chyfansoddwyd gan Llinos Mai a Dan Lawrence
Perfformiwyd â chapsiynau creadigol yn Gymraeg, gydag uwchdeitlau Saesneg
Yn addas i ddysgwyr Cymraeg.